British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011, 12:09 GMT
Ambiwlans Awyr Cymru'n 10 oed

Ambiwlans Awyr Cymru
Mae hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru wedi'u galw allan 14,000 o weithiau ers cychwyn y gwasanaeth

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn ddeng mlwydd oed ar Fawrth 1af.

Mae'r dengmlwyddiant yn cael ei ddathlu gyda pharti penblwydd cyhoeddus ym Mharc Margam, ger Port Talbot, pan fydd y tri ambiwlans awyr yn dod at ei gilydd am y tro cynta'.

Fel arfer mae'r tri hofrennydd wedi'u lleoli yn Abertawe, Y Trallwng a Chaernarfon.

"Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol," meddai prif weithredwr yr elusen, Angela Hughes.

"Ni oedd y rhanbarth ola' yn Ewrop i gael ambiwlans awyr, ond mae wedi tyfu i fod yn un o'r gwasanaethau prysura'.

"Fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth anhygoel gan y cyhoedd, felly 'da ni'n croesawu pawb i ddod i weld yr hofrenyddion y maen nhw wedi'u helpu cymaint dros y deng mlynedd diwetha'."

Costau

Dechreuodd yr elusen ar ei gwaith ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001, gydag un hofrennydd yn Abertawe.

Erbyn hyn mae 'na dri o hofrenyddion sydd wedi'u lleoli "er mwyn cyrraedd unrhyw ran o Gymru o fewn 20 munud."

Ers cychwyn y gwasanaeth, mae'r hofrenyddion wedi cael eu galw allan 14,000 o weithiau.

Mae'n costio £5 miliwn y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth, gyda'r arian yn dod o gyfraniadau'r cyhoedd.

Yn 2008 fe lansiodd Ambiwlans Awyr Cymru apêl £1, gyda chefnogaeth nifer o sêr Cymreig, i godi arian i gael hofrenyddion gwell.

'Unigryw'

"Roedd yr apêl £1 yn help i bobl ddeall y gallen nhw fod yn rhan o rywbeth mawr, rhywbeth hanfodol i Gymru: gallen nhw achub bywydau gyda dim ond £1," meddai Ms Hughes.

"Ac fe weithiodd: fe lwyddon ni i gael dau hofrennydd newydd y flwyddyn wedyn, ac yn 2010 fe welon ni pa mor bwysig ydy'r hofrenyddion yma i achub hyd yn oed mwy o fywydau."

Ychwanegodd Bob Palmer, cadeirydd yr elusen: "Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn unigryw yn y DU, yn cynnig gwasanaeth i'r wlad gyfan dros dirwedd amrywiol iawn. Mae hefyd yn arwydd o angerdd a gwladgarwch pawb sy'n cefnogi'r achos, o gymunedau i fusnesau. 'Da ni'n edrych ymlaen at ddeng mlynedd arall o helpu pobl yng Nghymru."



HEFYD
Croesawu ambiwlans awyr newydd
08 Medi 09 |  Newyddion
Aelod newydd i'r Ambiwlans Awyr
01 Ebr 09 |  Newyddion
Ambiwlans Awyr: Biliau uwch
30 Gorff 08 |  Newyddion
Apl 15,000 yr Ambiwlans Awyr
02 Mai 07 |  Newyddion
Trydydd ambiwlans awyr i Gymru
18 Rhag 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific