British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011, 12:49 GMT
Refferendwm: Diwrnod ola'r ymgyrchu

Fan hysbysebu
Bydd fan Ie Dros Gymru allan yn atgoffa pobl i bleidleisio ddydd Iau

Ar y diwrnod olaf cyn y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad mae'r ddwy ochr yn parhau i geisio perswadio'r cyhoedd.

Mae Ie dros Gymru - y prif grŵp sy'n ymgyrchu o blaid - yn dechrau'r diwrnod gyda chynhadledd newyddion yng Nghaerdydd tra bydd Gwir Gymru - y prif grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn - yn ôl yn eu cymunedau.

Ar ôl y gynhadledd i'r wasg bydd Roger Lewis, cadeirydd yr ymgyrch Ie, yn rhannu taflenni ar strydoedd Treganna, Caerdydd, gyda chynrychiolwyr o Ie dros Gymru.

'Atgoffa'

"Fe fyddwn ni'n dosbarthu taflenni i atgoffa pobl i bleidleisio ar draws Cymru," meddai Roy Payne o'r ymgyrch Ie ...

"Mae gennym ni fan hysbysebu hefyd.

"Fe fydd yn dechrau yn Nhreganna yn y bore ac yn teithio i'r Rhondda erbyn y prynhawn."

Mae cyn Weinidog Llafur wedi dweud y bydd yn pleidleisio Na.

Y Mochyn Pinc
Bydd y mochyn pinc yn gwneud ymddangosiad arall ar ddiwrnod ola'r ymgyrchu

"Dydw i ddim yn credu bod y Cynulliad ar hyn o bryd yn mynd i allu ymdopi â phwerau pellach," meddai'r Arglwydd Touhig ar BBC Cymru.

"Mae 60 aelod Cynulliad ac mae traean ohonyn nhw'n weinidogion neu'n cadeirio pwyllgorau.

"Yn y bôn, mae hynny'n cyfyngu ar y nifer o bobol all wneud y gwaith craffu a sicrhau bod y llywodraeth yn atebol."

Fe fyddwn ni'n mynd yn ôl i'n cymunedau lleol i ymgyrchu," meddai Nigel Bull o'r ymgyrch Na.

Pobl gyffredin â gwaith bob dydd oedd y rhan fwya o ymgyrchwyr, meddai, ac felly nid oedd modd iddyn nhw ganfasio drwy'r dydd.

Y dewis ar Fawrth 3 yw caniatáu rhoi pwerau deddfu llawn neu beidio i Aelodau'r Cynulliad yn y meysydd sydd wedi eu datganoli.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific