British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011, 07:01 GMT
Dadl Gŵyl Ddewi ar y refferendwm

Dewi Llwyd cyflwynydd Hawl i Holi
Dewi Llwyd fu'n cadeirio dadl Radio Cymru ar y refferendwm

Refferendwm pwerau Cymru oedd pwnc trafod rhaglen Hawl i Holi ar Radio Cymru ar Ddydd Gŵyl Ddewi.

Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar refferendwm pwerau'r Cynulliad ddeuddydd cyn y bleidlais.

Pedwar oedd ar y panel yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, o dan gadeiryddiaeth Dewi Llwyd.

Cefnogwr yr ymgyrch Na, y Ceidwadwr Syr Eric Howells; AC Plaid Cymru Helen Mary Jones sy'n ymgyrchu am bleidlais Ie; a'r sylwebwyr gwleidyddol Rod Richards a Gareth Hughes fu'n trafod.

Cynulleidfa o bobl leol oedd yn holi'r cwestiynau gan drafod diffyg gwybodaeth am y refferendwm, record y Cynulliad ers 1999 ac aeddfedrwydd aelodau'r Cynulliad i wneud eu gwaith.

Y drefn bresennol

Dywedodd Syr Eric bod y Cynulliad yn gweithio'n iawn fel y mae ac mai diffyg ar ran yr aelodau yw bod gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol (neu LCO) yn cymryd amser i drosglwyddo grym o San Steffan i Fae Caerdydd.

Ar hyn o bryd, gall y Cynulliad wneud cais am bŵer deddfu mewn maes arbennig o fewn pwnc sydd wedi ei ddatganoli trwy orchymyn.

"Does dim eisiau iddo fe gymryd blynyddoedd, mae lan i chi i ofyn amdano fe mewn blwyddyn, chwe mis, mis," meddai wrth Ms Jones oedd yn anghytuno'n chwyrn.

Dywedodd hi byddai pleidlais Ie yn "cyflymu'r" broses o ddeddfu ac yn lleihau'r gost.

Yn ôl Mr Richards "dyw deddfu ar garlam ddim bob amser yn dda" gan ddweud pan fo San Steffan yn deddfu ar frys nad yw'r canlyniadau i'w croesawu.

Ail siambr?

Gan fod Tŷ'r Arglwyddi'n craffu ar waith Tŷ'r Cyffredin yn San Steffan, holwyd y panel a fyddai angen ail siambr ar y Cynulliad pe bai pleidlais Ie.

Dywedodd Syr Eric y byddai'n pleidleisio Na "achos rwy'n teimlo bod Tŷ'r Cyffredin yn gwneud hyn nawr.

"Mae'r aelodau seneddol yma i'w wneud e.

"Licen i tase aelodau seneddol yn cyfarfod bob bore Gwener i drafod gwaith y Cynulliad."

Mynnodd Ms Jones bod hanner gwledydd democrataidd y byd heb ail siambr gan restru enwau gwledydd fel Seland Newydd a Sweden fel enghreifftiau.

"Mae gyda ni bob pedair blynedd bobl Cymru i'n sortio ni mas os ydyn ni'n gwneud pethau maen nhw'n anghytuno â nhw," meddai.

Nifer y pleidleiswyr

Holwyd am ddilysrwydd y refferendwm pe na bai llawer yn pleidleisio.

"Peth technegol ydy hwn, nid egwyddor," meddai Mr Hughes.

"Gan fod y peth mor dechnegol, buasai mwyafrif o un yn ddigon.

"Os oeddan ni am gael refferendwm o gwbwl, ei gael o yn 2006 pan oeddan nhw'n rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad ...."



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific