British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011, 07:09 GMT
Dadlau am gost y Cynulliad

Y panel
Roedd y ddadl olaf yn dod o'r Coed-duon

Bu dadlau am gostau'r Cynulliad a nifer yr aelodau yn y dyfodol yn ystod y ddadl deledu olaf ar y refferendwm nos Lun.

Ar ran yr ymgyrch Ie dros Gymru, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y setliad datganoli presennol yn rhoi'r hawl olaf i Ysgrifennydd Cymru dros y Cynulliad.

Dywedodd un o'r prif ymgyrchwyr Na, Rachel Banner o fudiad Gwir Gymru, fod y Cynulliad yn canoli pŵer ym Mae Caerdydd.

Byddai pleidlais Ie ddydd Iau yn rhoi pwerau deddfu uniongyrchol i Lywodraeth y Cynulliad dros y materion sydd wedi eu datganoli.

Byddai pleidlais Na yn golygu fod y system yn aros fel y mae, gyda'r Cynulliad yn gwneud cais i Lywodraeth San Steffan er mwyn pasio deddfau ar y materion sydd wedi eu datganoli iddyn nhw.

'Mwy effeithlon'

Ar y rhaglen o'r Coed-duon mynnodd Mr Jones na fyddai mwy o Aelodau Cynulliad pe bai pleidlais o blaid mwy o bwerau ac na fydden nhw'n cael mwy o gyflog.

Dadleuodd nad oedd angen rhagor o aelodau Cynulliad: "Os cawn ni system newydd lle gallwn fod yn fwy effeithlon, yn llawer mwy effeithlon na'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, dim ond 60 o aelodau sydd ei angen arnon ni."

"Dyma beth sydd dan sylw - a oes gennym ni system sy'n araf, neu a oes gennym ni system sy'n llawer mwy effeithlon na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd?"

Pan mae'r Cynulliad eisiau gwneud cais am bŵer mae'n rhaid i Ysgrifennydd Cymru gyflwyno eu cais i San Steffan "sy'n golygu fod feto gan yr Ysgrifennydd Gwladol", meddai.

'Cyfeiriad gwahanol'

Dywedodd Ms Banner, o'r grŵp Gwir Gymru, fod y system bresennol yn gweithio'n dda, ond y gallai datganoli "gymryd cyfeiriad hollol wahanol".

"Yn hytrach na chreu San Steffan yn y Bae - sef yr hyn rydyn ni'n ei gael ar hyn o bryd - pŵer wedi ei ganoli, pŵer yn cael ei gymryd oddi ar gynghorau a chymunedau lleol, rydyn ni'n cefnogi'r syniad o wir ddatganoli lle gallech chi yn y Cynulliad, gan ei fod yn sefydliad bychan, gynnwys pobl mewn ffordd llawer cryfach nag y gallwch yn San Steffan er enghraifft."

Dylai pobl sy'n deisebu'r Cynulliad gael caniatâd i annerch y siambr, awgrymodd.

Doedd syniadau arloesol o'r fath ddim yn digwydd rŵan meddai "gan fod yna fomentwm dros bŵer wedi ei ganoli yn y Senedd ".

Cytunodd Nathan Gill - o Blaid Annibynnol y DU, sy'n galw am bleidlais Na - nad oedd a wnelo'r refferendwm â mwy o Aelodau Cynulliad a'u cyflogau.

Mwy o aelodau

Ond "canlyniad uniongyrchol pleidlais Ie" meddai, fyddai ACau yn y pen draw yn galw am fwy o aelodau pe bai ganddyn nhw fwy o waith a mwy o gyfrifoldeb.

Dywedodd cadeirydd yr ymgyrch Ie dros Gymru, Roger Lewis: "Rydw i eisiau i'n gwleidyddion weithio'n llawer caletach.

"Oherwydd beth fyddai pleidlais Ie dros Gymru yn ei roi inni ddydd Iau fyddai dim esgus yn y Cynulliad. Byddai'n codi'r 'bar'. Mae'n dod â'r cyfrifoldeb yma i Gymru."

Y pedwar ar y panel yn y Coed Duon ger Caerffili - Roger Lewis, Cadeirydd Ie Dros Gymru a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru o blaid gyda Rachel Banner, Cadeirydd Gwir Gymru, a Nathan Gill o UKIP yn erbyn.

Eisoes cafwyd dadl deledu Saesneg yn Aberystwyth a'r un Gymraeg o Gaergybi.

Bydd Dewi Llwyd yn cadeirio trafodaeth arall am y Refferendwm yn rhaglen arbennig Manylu - Hawl i Holi ar Radio Cymru am 6.30pm nos Fawrth.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific