Bydd Catherine Zeta Jones yn derbyn anrhydedd arall yn Efrog Newydd
|
Bu Cymry'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi yma ac ar draws y byd. Fel rhan o'r dathliadau, roedd gorymdeithiau yng Nghaerdydd a Wrecsam, ond cafodd yr achlysur ei nodi hefyd o China i Efrog Newydd. Bu Tywysog Cymru yn ymweld â Choleg Llanymddyfri lle aeth i eisteddfod arbennig a hefyd yn cwrdd â busnesau lleol sy'n rhan o Gynllun Mynyddoedd y Cambrian i hybu diwydiannau cefn gwlad yr ardal. Mae'n Wythnos Cymru yn yr Unol Daleithiau a bu llawer o ddigwyddiadau yno yn ogystal. Yn Efrog Newydd, fe gafodd yr actores o Abertawe, Catherine Zeta Jones - a gafodd ei hanrhydeddu gyda'r CBE ym Mhalas Buckingham yr wythnos ddiwethaf - anrhydedd arall am ei gwaith i hybu Cymru o amgylch y byd. Cafodd y wobr ei chyflwyno iddi gan Gymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd yn eu cinio blynyddol. Agorodd arddangosfa arbennig gan y ffotograffydd o Gymru, Cambridge Jones, yn Los Angeles, gyda darluniau o Katherine Jenkins, Bryn Terfel, Ioan Gruffudd a Michael Sheen yn eu plith. Am ddim
Dywed Dr Barry Morgan mai'r her yw "gorfoleddu yn ein hunaniaeth" heb ddod yn "genedlaetholgar gul"
|
Yma yng Nghymru roedd mudiad Cadw yn cynnig mynediad am ddim i'w holl gestyll ac adeiladau hanesyddol eraill wrth i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddweud yn ei neges Gŵyl Dewi y bydd Cymru'n parhau i ddefnyddio'i hanes a'i threftadaeth i ddenu ymwelwyr. "Bu hwn yn gyfnod anodd i'r economi yng Nghymru," meddai, "ond does gen i ddim amheuaeth fod hon yn wlad gyda dyfodol gwych o'i blaen." Yn ei
bregeth Gŵyl Dewi
yng nghapel Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan nos Fawrth, bydd Dr Barry Morgan yn dweud mai'r her sy'n wynebu Cymru yw sut i ddiogelu ei hunaniaeth heb ddod yn "genedlaetholgar gul". Draw yn China, roedd Wythnos Cymru yn nhalaith Chongqing yn canolbwyntio ar ddiwydiant ac addysg, ac yn Llundain, daeth gwahoddiad i flasu bwyd a diod o Gymru mewn stondinau arbennig yn Marble Arch ac Oxford Street. Yn Ne Korea, bu Rhiannon Williams a'i phlant Branwen a Berwyn yn gwneud cacennau cri ac yn mynd â nhw i'r ysgol leol i'w rhannu gyda chydweithwyr a chyfeillion Rhiannon yno. Mae'r dathlu wedi digwydd yn gynnar yn Dubai lle bu cyfarfod o'r Gymdeithas Gymraeg yno ar Chwefror 25. Aeth dros 300 o bobl i'r digwyddiad gan godi arian at elusennau yng Nghymru a Dubai.
|