British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Chwefror 2011, 10:11 GMT
Streic drenau: Cyngor i deithwyr

TrÍn Arriva Cymru
Cychwynnodd y gweithredu am hanner nos nos Sadwrn

Mae Trenau Arriva Cymru yn annog teithwyr i wneud trefniadau eraill wrth i yrwyr trenau weithredu'n ddiwydiannol am ail ddiwrnod.

Gwrthododd aelodau undeb Aslef â gweithio oriau ychwanegol ddydd Sul, gan effeithio ar gannoedd o wasanaethau.

Mae'r undeb mewn anghydfod gyda Threnau Arriva Cymru dros gyflogau ac maen nhw'n cyhuddo'r cwmni o roi llai o gyflog i yrwyr yng Nghymru na'r gyrwyr yn Lloegr.

Dywed rheolwyr bod cynnig o 12% dros ddwy flynedd yn "hynod o hael".

Mae Arriva yn annog teithwyr i wneud trefniadau teithio eraill oherwydd y gweithredu diwydiannol.

Mae gyrwyr ar streic am 24 awr ddydd Llun, gan arwain at ganslo hyd at 900 o wasanaethau, a gallai effeithio ar wasanaethau fore Mawrth hefyd.

'Siomedig'

Ddydd Sul, dim ond llond llaw o wasanaethau yn ne a gorllewin Cymru oedd yn rhedeg gyda gwasanaethau gwennol yn rhedeg rhwng y Barri a Phontypridd drwy Ganol Caerdydd, rhwng Pen-y-Bont ar Ogwr a Chaerdydd ar lein Bro Morgannwg, a rhwng Caerfyrddon ac Abertawe.

Dywed y cwmni fod nifer fechan o yrwyr trenau wedi dod i'w gwaith.

Meddai Peter Leppard, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Trenau Arriva Cymru: "Mae'r ffaith ein bod wedi gallu cynnal nifer fechan o wasanaethau yn dangos nad yw pob gyrrwr yn cefnogi'r gweithredu diwydiannol.

"Fodd bynnag, rydym ni'n dal i gynghori defnyddwyr i wneud trefniadau teithio eraill ar gyfer dydd Llun.

"Rydyn ni'n dal i fod yn hynod siomedig fod ein cynnig hael wedi ei wrthod a bod y gweithredu diwydiannol gan Aslef wedi mynd yn ei flaen."

Dywed Trenau Arriva Cymru y byddai eu cynnig o dros 12% yn dod â chyflogau gyrwyr i £39,117 am wythnos arferol 35 awr, bedwar diwrnod.

Maen nhw'n gobeithio y gellir datrys yr anghydfod tâl presennol.

Am y manylion diweddara' i deithwyr gellir edrych ar wefan Trenau Arriva Cymru neu gysylltu gyda'r llinell wybodaeth genedlaethol ar 08457 48 49 50.



HEFYD
Streic gyrwyr trÍn yn parhau
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gan lanhawyr ar drenau
25 Chwef 11 |  Newyddion
Cyhoeddi streic drenau
17 Chwef 11 |  Newyddion
Canslo streic drenau
01 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific