British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Chwefror 2011, 07:45 GMT
Mwy o ddwyn olew gwresogi

Sue Nicholls a'i mam Alice
Collodd mam Sue Nicholls, Alice (ar y dde), werth £800 o olew

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi canfod bod lladron yn elwa o'r cynnydd mewn pris olew gwresogi, gan ddwyn cyflenwadau yng ngogledd Cymru.

Mae nifer y cartrefi sydd wedi eu targedu wedi bron â threblu.

Rhwng mis Hydref 2010 a mis Rhagfyr 2010 targedwyd 43 o dai er mwyn dwyn olew, ynghyd â nifer fawr o neuaddau pentref, capeli ac adeiladau eraill.

Yn ôl ymchwiliad rhaglen X-Ray BBC Cymru, mae'r lladradau yma yn costio miloedd o bunnoedd.

Yn ystod y tri mis fe wnaeth pris olew gwresogi godi o tua 41c y litr i 73c y litr, sy'n golygu y byddai 500 litr yn costio £365 o'i gymharu â £205 dri mis yn gynt.

Oerfel

Yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru does gan 16% o bobl sy'n byw yng Nghymru ddim cysylltiad i'r prif gyflenwad nwy - tra bod y ffigwr yn Lloegr yn 9%.

Mae Alice yn 97 oed ac yn byw yn un o'r 143,000 o dai yng Nghymru sy'n defnyddio olew gwresogi.

Tanc olew gwresogi
Mae pris olew gwresogi cartref yn cynyddu

Tra ei bod yn yr ysbyty yn cael llawdriniaeth ym mis Rhagfyr fe wnaeth ei merch, Sue Nicholls, lenwi'r tanc olew.

Ddeuddydd yn ddiweddarach roedd yr olew wedi mynd, ychydig dros 1,000 litr ar gost o £800.

"Dwi'n amau a fyddai'r bobl yma yn gwneud yr un peth i'w mamau eu hunain.

"Beth petai fy mam wedi bod adre? Fe fyddai'r tŷ wedi bod yn oer iawn."

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal ymchwiliad sylweddol.

"Mae'r rhai yr ydan ni'n credu sy'n gyfrifol yn gwybod be maen nhw'n ei wneud," meddai'r heddwas Gary Aldous.

"Mae ganddyn nhw'r cyfarpar i gyd ... yn amlwg maen nhw'n ei werthu ymlaen.

"Dim ond unwaith yr ydan ni wedi dal unrhyw un yn dwyn olew."

Dywedodd hefyd mai dim ond yn y nos yr oedd yn digwydd.

Fe fydd mwy am y stori yma ar X-Ray nos Lun Chwefror 28 am 7.30pm ar BBC Un Cymru.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific