British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Chwefror 2011, 07:29 GMT
Streic deuddydd gan yrwyr Trenau Arriva Cymru

TrÍn Arriva Cymru
Cychwynnodd y gweithredu am hanner nos nos Sadwrn

Mae gwasanaethau trên yn parhau i gael eu heffeithio wrth i yrwyr Trenau Arriva Cymru weithredu'n ddiwydiannol am ar ail ddiwrnod.

Undeb Aslef sydd wedi galw'r gweithredu, a ddechreuodd ddydd Sul, oherwydd anghydfod am gyflog.

Does 'na ddim gwasanaeth Trenau Arriva Cymru ddydd Sul na dydd Llun a does 'na ddim gwasanaeth arall yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid.

Dywed rheolwyr bod cynnig o 12% dros ddwy flynedd yn "hynod o hael".

Mae'r undeb wedi cyhuddo'r cwmni o roi llai o gyflog i yrwyr yng Nghymru na'r gyrwyr yn Lloegr.

Bws fu'n cludo teithwyr y gwasanaeth 1.50am rhwng Harbwr Abergwau a Chaerdydd ddydd Sul.

Trafod

Y cyngor i deithwyr ar unrhyw wasanaeth arall gan Drenau Arriva Cymru yw gwneud trefniadau eraill.

Mae'n bosib y bydd 'na effaith hefyd ar wasanaethau ddydd Mawrth.

"Mae uwch reolwyr Trenau Arriva Cymru a swyddogion undebau ASLEF a RMT wedi bod mewn trafodaethau ers sawl mis i geisio dod i gytundeb ar gyflog ac amgylchiadau gwaith gyrwyr trenau," meddai Peter Leppard, Cyfarwyddwr Gweithredu Trenau Arriva Cymru.

"Rydym yn hynod siomedig unwaith eto bod ein cynnig hael wedi cael ei wrthod ac y bydd y streic ar gyfer Chwefror 27 a 28 yn mynd ymlaen."

Dywedodd y byddai'r streic yn cael effaith sylweddol ar gwsmeriaid.

"Rydym yn gresynu unrhyw weithredu sy'n cael effaith ar wasanaethau i deithwyr ond fyddwn ni ddim yn parhau gyda hyn petai yna unrhyw ddewis arall," meddai llefarydd ar ran Aslef.

Am y manylion diweddara i deithwyr gellir edrych ar wefan Trenau Arriva Cymru neu gysylltu gyda'r llinell wybodaeth genedlaethol ar 08457 48 49 50.



HEFYD
Streic gan lanhawyr ar drenau
25 Chwef 11 |  Newyddion
Cyhoeddi streic drenau
17 Chwef 11 |  Newyddion
Canslo streic drenau
01 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific