British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Chwefror 2011, 07:13 GMT
Dyddiau olaf cyn y bleidlais

Y Senedd ym Mae Caerdydd o'r awyr
Y dewis yw i'r Cynulliad gael pŵer uniongyrchol i ddeddfu a'i pheidio

Dyddiau yn unig o ymgyrchu sydd ar ôl yn y refferendwm ar gynyddu pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dydd Iau fe fydd etholwyr yn pleidleisio a ddylai'r Cynulliad gael pŵer uniongyrchol i lunio deddfau yn y meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli.

Mae'r rhai sydd o blaid yn dweud y byddai hyn yn arbed arian ac yn creu llywodraeth ddatganoledig fwy effeithiol.

Ond mae'r ymgyrchwyr sydd yn erbyn wedi beirniadu record Llywodraeth y Cynulliad dros 10 mlynedd cyntaf datganoli.

Ar hyn o bryd mae gan y Cynulliad hawl dros 20 o feysydd ond mae'n rhaid iddyn nhw wneud cais i'r Senedd yn Llundain am hawl i ddeddfu a hynny ym mhob achos unigol.

Fe fyddai pleidlais o blaid yn golygu bod y Cynulliad yn gallu creu a phasio deddfau heb orfod cael hawl o San Steffan.

Ymgyrchu

Dywed Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod y system bresennol fel llywio car ond "bod rhywun arall yn gwthio'r pedalau".

Mae Gwir Gymru, y grŵp sy'n erbyn, yn dweud bod pleidlais o blaid yn "llwybr llithrig tuag at raniad oddi wrth y DU" gan ychwanegu bod y Cynulliad wedi "tangyflawni" yn ystod y 12 mlynedd diwethaf.

Fe fydd arweinwyr y pedair prif blaid yn ymgyrchu ddydd Mawrth yng nghanol Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae gan yr ymgyrch Na fascot amlwg: mochyn mawr pinc.

Mae polau piniwn yn dweud bod yr ymgyrch Ie ar y blaen yn gyfforddus.

Roedd yr addewid i gynnal y refferendwm yn rhan o gytundeb Cymru'n Un rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru arweiniodd at lywodraeth glymblaid.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific