British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Chwefror 2011, 07:32 GMT
Cynnal y ddadl deledu ola

Graffeg map Cymru ar gyfer y refferendwm
Fe ddaw'r ddadl olaf o'r Coed-duon

Fe fydd Betsan Powys yn cadeirio dadl deledu ar y refferendwm o'r de ddwyrain.

Bydd pedwar o bobl ar y panel yn y Coed Duon ger Caerffili.

Mae Roger Lewis, Cadeirydd Ie Dros Gymru a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru o blaid tra bod Rachel Banner, Cadeirydd Gwir Gymru, a Nathan Gill o UKIP yn erbyn.

Hon fydd y drydedd a'r olaf yng nghyfres dadleuon teledu BBC Cymru ar drothwy'r refferendwm ar Fawrth 3.

Roedd y ddadl deledu gyntaf yn Saesneg o Brifysgol Aberystwyth a'r un Gymraeg o Gaergybi.

Fe fydd yr etholwyr yn penderfynu caniatáu rhoi pwerau deddfu llawn i Aelodau'r Cynulliad yn y meysydd sydd wedi eu datganoli ai peidio.

Bydd y ddadl ar BBC1 Cymru nos Lun am 10.35pm.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific