British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 26 Chwefror 2011, 12:04 GMT
Dau gais posib i brynu Clwb PÍl-Droed Wrecsam

Clwb PÍl-droed Wrecsam
Cefnogwyr yn ceisio prynu'r Cae Ras a'r cae ymarfer

Gall Clwb Pêl-droed Wrecsam weld dau gais i brynu'r clwb.

Mae Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu rhoi cais saith ffigwr am y clwb, y Cae Ras ac adnoddau a safle hyfforddi'r clwb yng Ngresffordd.

Daw hyn wrth i wraig busnes lleol, Stephanie Booth, ddweud ei bod hithau yn gwneud trefniadau i brynu'r clwb.

Mae'r ddau yn dweud bod ganddyn nhw gyfle i brynu'r clwb sy'n chwarae yng Nghyngres y Blue Square.

Mewn datganiad ar wefan yr ymddiriedolwyr maen nhw'n dweud eu bod wedi cael cynigion "addawol" cyn cyfarfod gyda pherchnogion y clwb ddydd Mercher.

'Gweledigaeth'

Daw hyn yn ôl yr ymddiriedolwyr ar ôl wythnosau o waith caled, cyfres o gyfarfodydd gyda Chyngor Wrecsam, Llywodraeth y Cynulliad ac ASau ac ACau lleol.

Mae pawb eisiau "rhannau'r weledigaeth ar gyfer clwb sy'n eiddo i'r gymuned a fydd yn cael ei redeg gan y gymuned ar ran y gymuned".

"Mae 'na gyfarfod allweddol gyda'r perchnogion presennol ddydd Mercher," meddai'r ymddiriedolwyr.

Stephanie Booth
Mae gan Stephanie Booth ddiddordeb i brynu'r clwb

"Yn y cyfamser rydym yn apelio ar unrhyw un sydd am weld buddiannau'r clwb yn cael eu cadw i gysylltu gyda ni."

Fe wnaeth Stephanie Booth gyfarofd yr ymddiriedolwyr nos Iau yn ogystal â chynghorydd lleol ac un o gefnogwyr y Dreigiau, Phil Wynn.

"Yn anffodus mae'r ymddiriedolwyr wedi penderfynu peidio derbyn cyngor pawb arall ac wedi dewis parhau gyda'u cais," meddai Ms Booth ar dudalen Facebook o'r enw "Back the Booth", ar ôl y cyfarfod.

Cyfranddalwyr

Mae hi'n pwysleisio bod ei chynlluniau hi i brynu'r clwb yn parhau.

Ychwanegodd ei bod am weld y cefnogwyr yn cefnogi'r clwb ac yn mynychu'r gemau drwy godi'r dyrfa o 3,000 i 5,000.

Wrth fanylu ar ei chynlluniau dywedodd y byddai bwrdd o gyfranddalwyr yn berchen ar y clwb, pob cyfranddaliad yn costio £100 a dim un person yn cael mwy na 10% o hawl yng Nghlwb Pêl-Droed Wrecsam.

Fe fyddai'r stadiwm a'r caeau yn cael eu rhoi mewn "ymddiriedolaeth elusennol gymunedol" er mwyn sicrhau mai'r "gymuned sy'n berchen arno er budd y gymuned".

Ychwanegodd y gallai digwyddiadau mawr a "sioeau" gael eu cynnal ar y Cae Ras.

"Ac eithrio'r rhai sy'n cael eu cyflogi, fydd yr un cyfarwyddwr yn derbyn taliad a fydd 'na ddim elw i'r cyfranddalwyr," meddai.

"Dwi eisiau i'r bobl fod yn rhan o'r clwb gan eu bod yn cefnogi'r clwb gwych yma."

Mae'r ymddiriedolwyr hefyd eisiau cefnogaeth y cefnogwyr.

"Rydym yn apelio ar y cefnogwyr i godi cymaint o arian â phosib ar gyfer ein cais cyn y cyfarfod gyda'r perchnogion ddydd Mercher," meddai'r llefarydd.

Bydd ganddyn nhw gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd William Aston ar Fawrth 14 i amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y clwb.

Ychwanegodd Ms Booth ar Facebook y byddai'n gadael i'r ymddiriedolwyr barhau a'u cais os "allen nhw godi'r arian, argyhoeddi'r perchnogion i dderbyn y cais a chael cefnogaeth y mwyafrif o'r cefnogwyr".



HEFYD
Cefnogwyr yn trafod i brynu clwb
23 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific