Cafodd y cyflenwadau dŵr i tua 300 o adeiladau masnachol ym Mae Caerdydd ei adfer ar ôl i weithwyr daro'r prif gyflenwad dŵr. Yn ôl cwmni Dŵr Cymru, roedd y digwyddiad yn Rhodfa'r Harbwr ger Cei'r Forforwyn, wedi achosi "problemau sylweddol". Cafodd y cyflenwadau eu hadfer erbyn hanner nos yn ôl llefarydd ar ran y cwmni. Bu'n rhaid i nifer o fwytai a bariau yng Nghei'r Forforwyn gau nos Wener. Doedd 'na ddim cyflenwadau dŵr i nifer o fusnesau ac roedd pwysedd isel mewn nifer o dai cyfagos. Roedd y bibell achosodd y difrod ger yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd.
|