British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Chwefror 2011, 13:28 GMT
Cynnydd mewn biliau dŵr cwsmeriaid

Tap dŵr
Gallai pobl sengl arbed arian drwy gael mesurydd dŵr wedi osod yn eu tai

Bydd biliau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn codi fis Ebrill yn ôl y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant, Ofwat.

Bydd cyfartaledd biliau dros Gymru a Lloegr yn cynyddu o 4.6% o fis Ebrill ymlaen i £356 a bydd disgwyl i filiau dŵr a charthffosiaeth Dŵr Cymru godi £11 neu 2.7%.

I gwsmeriaid Severn Trent yng Nghymru, bydd y cynnydd ar gyfartaledd yn £13 neu 4.3%.

Gall cwsmeriaid Dee Valley, y mae eu biliau'n cynnwys costau dŵr yn unig, ddisgwyl gweld eu biliau'n codi dros 5%, sef £7.

Mae'r cynnydd yn dod er cyhoeddiad yn 2009 Ofwat y byddai biliau dŵr yn aros ar yr un lefel tan 2015.

Ond ers y cyhoeddiad, mae lefel chwyddiant wedi bod yn llawer uwch o'i gymharu â tharged y llywodraeth o 2%.

Mae Ofwat yn dweud mai hyn sy'n gyfrifol am y cynnydd.

Mesurydd

Mae Pwyllgor Cymru'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr dŵr yng Nghymru, wedi annog aelwydydd un person i ystyried newid i gyflenwad dŵr sy'n cael ei fesur gyda mesurydd.

Dywedodd y cadeirydd Diane McCrea: "Os ydych chi'n berson sengl, neu'n ddau berson sydd ddim yn defnyddio llawer o ddŵr, edrychwch a ydych chi ar fesurydd ai peidio yna allech chi arbed arian ar eich bil dŵr drwy gael mesurydd.

"Oherwydd y ffordd mae rheoliadau yn cael eu gosod, nid yw cwsmeriaid ar fesurydd yn talu gymaint, ar gyfartaledd, â'r rheiny sydd ar werth cyfraddol [eu heiddo].

"Rydyn ni'n gwybod, yn dal, nad oes gan 70% o bobl yng Nghymru fesurydd.

"Mae hynny'n rhywbeth y gall cartrefi un person ei ystyried i leihau eu bil dŵr."

Dywed Ofwat eu bod wedi gwneud ymdrech i sicrhau bod y cynnydd mor isel â phosib - ac y bydd yr elw sy'n cael ei greu gan gostau uwch i gwsmeriaid dŵr yn helpu i gyllido £22 biliwn o wariant ar wella gwasanaethau.



HEFYD
Adfer cyflenwadau dwr
03 Ion 11 |  Newyddion
Miloedd heb gyflenwad dwr
29 Rhag 10 |  Newyddion
Mwy o alwadau i gwmni dwr
28 Rhag 10 |  Newyddion
Galw am fesurydd dwr i bob cartre
12 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific