British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Chwefror 2011, 13:53 GMT
Refferendwm: Dadl rhwng Carwyn Jones a Nigel Bull

Adeilad y Cynulliad gyda'r nos
Bydd refferendwm ar bwerau'r Cynulliad ar Fawrth 3

Bu gwrthdaro rhwng Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Nigel Bull o Gwir Gymru ar un o raglenni Radio Wales.

Roedd yn rhaglen alw arbennig ddydd Gwener yn canolbwyntio ar refferendwm pwerau'r Cynulliad fydd i'w gynnal ar Fawrth 3.

Roedd Mr Jones yn dadlau o blaid pleidlais Ie yn y refferendwm tra bod Mr Bull yn dadlau dros bleidlais Na.

'Mynd tuag yn ôl'

Mr Bull gafodd y cyfle cyntaf i amlinellu'i ddadl.

"Rydym ni [yn Gwir Gymru] yn teimlo bod Cymru'n mynd tuag yn ôl," meddai.

"Dydyn ni ddim wedi gweld y manteision addawyd [adeg refferendwm 1997].

"Rydym ni wedi symud tuag yn ôl yn y tri phrif faes - iechyd, addysg a'r economi.

"Mae 40% o blant addysg uwch flwyddyn ar ei hôl hi gyda'u darllen.

"Dyna beth yw methu."

Amherthnasol

Mae dweud bod y refferendwm yma'n fater o dacluso'r drefn yn ffuantus
Nigel Bull, Gwir Gymru

Ymatebodd Mr Jones gan wadu bod y Llywodraeth yn methu pobl Cymru ond yn mynnu na ddylai'r cyhoedd bleidleisio ar sail record y Llywodraeth.

"Does gan [record y Llywodraeth] ddim i wneud â dydd Iau," meddai.

"Y cwestiwn yw... ydych chi'n credu y dylem ni gael ffurf araf o lywodraethu neu ddal i fyny gyda gweddill Prydain a deddfu drosom ni ein hunain?

"Os ydy'r system bresennol wedi methu dros y 12 mlynedd diwethaf, pam ydych chi eisiau ei gadw?"

Eisiau 'gwir ddatganoli'

Yn ôl Mr Bull, nid mudiad yn erbyn datganoli yw Gwir Gymru ond mudiad sydd eisiau "gwir ddatganoli" a "rhoi'r pŵer yn ôl i'r bobl" - rhywbeth mae'r Cynulliad wedi methu ei wneud meddai.

Meddyliwch yn bositif, gweithredwch yn bositif, pleidleisiwch Ie
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Dywedodd bod Deddf Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyflwyno yn 2006 er nad oedd y cyhoedd wedi pleidleisio amdano yn refferendwm 1997 gan awgrymu mai'r bwriad fydd datganoli mwy i'r Cynulliad wedi refferendwm Mawrth 3.

"Mae dweud bod y refferendwm yma'n fater o dacluso'r drefn yn ffuantus," meddai.

'Bod yn bositif'

Dywedodd Mr Jones nad oedd Gwir Gymru yn cynnig rhesymau dros gadw'r drefn bresennol.

"Gadewch i ni fod yn bositif am ein dyfodol," meddai.

"Rhaid i ni gofio ein bod ni'n rhan o Brydain.

"Diwedd y daith i fi yw nid pwerau pellach, nid hyd yn oed pwerau trethi.

"Diwedd y daith i fi yw'r refferendwm yma a gweithio gyda'r system [newydd].

"Meddyliwch yn bositif, gweithredwch yn bositif, pleidleisiwch Ie."

Mae gan etholwyr Cymru ddewis yn y refferendwm ar Fawrth 3 i ganiatáu rhoi pwerau deddfu llawn i Aelodau'r Cynulliad yn y meysydd sydd wedi eu datganoli eisoes ai peidio.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific