British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Chwefror 2011, 08:17 GMT
CF99 Refferendwm: Rhaglen arbennig

Felix Aubel ac Elystan Morgan
Felix Aubel fydd yn edrych ar refferendwm 1997 a'r Arglwydd Elystan Morgan sy'n edrych yn l refferendwm 1979

Ar drothwy'r bleidlais ar roi mwy o rym i'r Cynulliad - mewn rhifyn estynedig o CF99 fe fydd Vaughan Roderick a Bethan Rhys Roberts yn bwrw golwg yn ôl ar refferenda'r gorffennol ar ddatganoli, ac yn holi sut yr ydyn ni wedi cyrraedd refferendwm 2011.

Mi fydd yr Arglwydd Elystan Morgan, oedd yn cadeirio Ymgyrch Cymru dros y Cynulliad yn 1979, ynghyd â'r Dr Felix Aubel, oedd yn aelod blaenllaw o'r ymgyrch Dywedwch Na yn 1997, yn rhannu eu hatgofion am y ddau refferendwm a fu.

Yna fe fydd Owain Clarke yn edrych yn ôl ar y 13 mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad.

Fe fydd yn olrhain y camau a chrisialu'r dadleuon sydd wedi arwain at y refferendwm hwn ar ddatganoli, i'w gynnal ddydd Iau, Mawrth 3 2011.

CF99 gan BBC Cymru am 9pm, nos Fercher, Mawrth 2 ar S4C.

Atgofion yr Arglwydd Elystan Morgan o refferendwm 1979

Atgofion Dr Felix Aubel o refferendwm 1997



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific