Bu mwy o ddefnydd o gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd hefyd.
|
Mae cynghorau yng Nghymru wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd o safon er gwaetha'r "hinsawdd economaidd heriol". Fe wnaeth BBC Cymru gysylltu â'r 22 cyngor sir yng Ngymru, ac mae nifer yn bwriadu cau llyfrgelloedd. Mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifiaeth yn dangos fod mwy o bobl nid yn unig yn benthyca llyfrau yng Nghymru, ond hefyd yn defnyddio adnoddau cyfrifiadurol llyfrgelloedd. Gwasanaeth "digonol" Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, y gallai'r llywodraeth weithredu os nad oedd cyngor yn darparu gwasanaeth "digonol", ond roedd am "gefnogi a rhoi arweiniad" i awdurdodau lleol. Mae o'r farn bod llyfrgelloedd yn "chwarae rôl bwysig ... ac yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'w cymunedau." Cododd nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd o 13,960,000 yn 2008/09 i 14,717,000 yn 2009/10 - i fyny 5.4%, a bu cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi benthyca o'r llyfrgelloedd, o 645,000 i 681,000 - i fyny 5.6%. Amcangyfrifir i'r cyfrifiaduron gael eu defnyddio gan y cyhoedd am gyfanswm o 2,098,240 awr, a hynny am ddim. Ond gyda chynghorau yn wynebu toriadau, mae 'na alwadau am warchod gwasanaeth llyfrgelloedd. Mae ymweliadau â llyfrgelloedd yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â gweddill y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru bu 5.4% o gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bu 8.4% o gynnydd yng Ngogledd Iwerddon, ond mae'r nifer yn Lloegr i lawr 1.6% a'r nifer yn yr Alban i lawr 1.4%. £300,000 Yn gynharach yr wythnos hon roedd y Gweinidog yn bresennol yn agoriad Llyfrgell y Rhyl sydd newydd gael ei foderneiddio, ar ôl derbyn £300,000 i foderneiddio'r adeilad a gwella gwasanaethau TG. Dywedodd R. Arwyn Jones, Pennaeth Llyfrgelloedd ac Archifdai Sir Ddinbych: "Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi profi bod plant sy'n defnyddio eu llyfrgell leol yn rheolaidd ddwywaith yn fwy tebygol o ddarllen yn well na'r cyfartaledd. "Mae annog a chynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu eu darllen a'u dysgu yn un o'n prif flaenoriaethau fel gwasanaeth a bydd y cyfleusterau newydd yn Llyfrgell y Rhyl yn ein galluogi ni i wneud hyd yn oed mwy. "Mae llawer o bobl ifanc yn dod i mewn i astudio a chwilio am wybodaeth - maen nhw wrth eu bodd â Wi-Fi am ddim ac yn hoffi gweld y nofelau graffig er enghraifft. "Fe wyddom ni hefyd fod y llyfrgell yn lle pwysig i bobl hŷn ddod, nid yn unig i fenthyca llyfrau, ond i ddarllen papurau newydd, cymdeithasu a dysgu sgiliau newydd megis defnyddio cyfrifiaduron. "Mae llawer o bobl sy'n chwilio am swyddi yn defnyddio'r we am ddim yn y llyfrgell i ddod o hyd i waith, a'r llyfrgell yw'r unig le y gall pobl â nam ar eu golwg fenthyg llyfrau print mawr neu sain am ddim yn lleol." Dyma'r ymatebion a dderbyniodd BBC Cymru - Ynys Môn: rhoddwyd y gorau i gynlluniau cau ar ôl i arbedion gael eu gwneud mewn mannau eraill
- BLAENAU GWENT: wedi adnewyddu rhai llyfrgelloedd, dim cynlluniau i gau
- Pen-y-bont ar ogwr: wedi cau ym Mlaengarw, Nantymoel a Chaerau; wedi lleihau oriau agor yn y rhan fwyaf o'r lleill
- CAERFFILI: wedi 'ad-drefnu' y gwasanaeth symudol
- CAERDYDD: ystyrir cau a thorri ddydd Iau
- Sir Gaerfyrddin: mae cynllun i gau canghennau bach oherwydd "defnydd isel"; gwelliannau yn Llanelli a Chaerfyrddin
- CEREDIGION: ad-leoli gwerth £1m yn Aberystwyth; adnewyddu gwerth £100,000 yn Aberteifi
- CONWY: adolygiad ar y gweill
- Sir Ddinbych: Rhyl wedi ailagor wedi gwaith adnewyddu gwerth £300,000; dim cynlluniau i gau neu uno ar hyn o bryd
- Sir y Fflint: bydd y gyllideb yn cael ei phenderfynnu ar Fawrth 1 a 5 llyfrgell o dan fygythiad
- GWYNEDD: dim cynlluniau i gau
- CASTELL NEDD PORT TALBOT: dim cynlluniau i gau
- CASNEWYDD: dim cynlluniau i gau
- Sir Penfro : dim cynlluniau i gau
- POWYS: rhaid i'r "holl wasanaethau" wneud toriadau
- RHONDDA CYNON TAF: llyfrgell Tylorstown yn cael ei hailagor yr wythnos nesaf a llyfrgell Pontyclun i gael ei hadnewyddu yn ddiweddarach eleni
- TORFAEN: cafodd Abersychan ei chau yn Ebrill 2010, tra adnewyddwyd Pont-y-pŵl ar gost o £300,000
- BRO MORGANNWG: y Bont-faen wedi ail agor ar ôl ei hadnewyddu, ond ystyriaeth i leihau'r gwasanaeth symudol
- WRECSAM: adnewyddwyd sawl llyfrgell mewn misoedd diweddar
|