British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Chwefror 2011, 19:57 GMT
Cau ysgol: Cymeradwyo adroddiad

Ysgol Y Parc
Mae nifer o bobl leol yn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc

Mae'n ymddangos bod cynlluniau dadleuol i gau Ysgol y Parc ger Y Bala fel rhan o'r broses o ad-drefnu ysgolion yn nalgylch y Berwyn gam yn nes at gael eu gwireddu.

Mae pwyllgor craffu plant a phobl ifanc Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo adroddiad i'r cynlluniau, gafodd ei lunio yn dilyn ymghynghoriad.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyngor llawn ganol mis Mai.

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gwestiynu proses ymgynghorol Cyngor Gwynedd wrth ystyried cau ysgolion gwledig.

Cwyn Cymdeithas yr Iaith yw bod yr ymgynghoriad wedi bod yn rhy fyr.

Maen nhw'n cyhuddo'r Cyngor o fod wedi gwneud y penderfyniad i gau Ysgol y Parc cyn ysgrifennu'r adroddiad.

Mae'r Cyngor yn gwadu honiadau Cymdeithas yr Iaith, gan ddweud bod "swyddogion wedi ystyried yr holl sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad".



HEFYD
Cau ysgol: Cwestiynu proses ymgynghori
22 Chwef 11 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgolion
16 Rhag 10 |  Newyddion
Model ar gyfer adfywio cymunedau?
25 Awst 10 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgolion
15 Gorff 10 |  Newyddion
Ad-drefnu: Creu ysgol gydol oes
13 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific