Warden yr eglwys George Flanagan yn archwilio'r difrod
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i chwech o feddrodau gael eu difrodi mewn eglwys yn Llanarmon-Yn-Iâl, Sir Ddinbych. Credir bod y troseddwyr yn chwilio am blwm. Cafodd beddrodau o'r 17eg a'r 18fed Ganrif eu difrodi yn Eglwys Garmon Sant yn y pentref. Fe wnaethon nhw adael yn waglaw ar ôl sylweddoli bod yr eirch wedi eu claddu yn y ddaear o dan y beddrodau, yn ôl y cynghorydd lleol, Christine Evans. Mae'r heddlu wedi disgrifio'r ymosodiad fel "gweithred o fandaliaeth ddireswm". Cerrig trwm Fe ddifrodwyd y beddrodau nos Fawrth ac fe wnaeth gweithwyr sy'n gweithio ar adeilad gerllaw sylwi fore Mercher. Cafodd gwerth tua £800 o olew o danc ei ddwyn yn ogystal. Mae'r heddlu yn ymchwilio i weld a oes 'na gysylltiad rhwng hyn a'r difrod i'r beddrodau. "Cafodd y cerrig eu codi ac yn amlwg roedd y rhai oedd yn gyfrifol yn defnyddio offer codi pwrpasol gan eu bod yn gerrig mor drwm," ychwanegodd Mrs Evans. "Yn amlwg doedden nhw ddim yn ymwybodol bod y beddrodau yn wag a bod yr eirch yn y ddaear. "Rydym yn credu eu bod yn chwilio am blwm. "Mae'n gwbl warthus eu bod yn gwneud rhywbeth fel hyn i fedd." Dywedodd warden yr eglwys, George Flanagan, bod hyn yn ymosodiad oedd wedi ei drefnu ac yn gwbl wrthyn. "Mae'n siŵr eu bod yn chwilio am blwm neu eitemau allai fod wedi eu claddu yn yr eirch. "I wneud hyn, mae'n bosib eu bod wedi cael llwyddiant yn rhywle arall." Apêl Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth. Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Ben Madeley, eu bod yn credu i'r troseddwyr fynd i mewn i eiddo sy'n cael ei adeiladu drws nesaf ond na chafodd dim eu dwyn oddi yno. "Wedyn aethon nhw i mewn i dir yr eglwys a difrodi chwech o feddrodau. "Mae 'na olew hefyd wedi cael ei ddwyn o'r tanc yng nghefn yr eglwys ond dydan ni ddim yn gwybod os mai'r un rhai sy'n gyfrifol." Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu 0845 6071001 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
|