British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Chwefror 2011, 07:34 GMT
Streic gan lanhawyr ar drenau

Great Western train
Mae'r undeb mewn anghydfod gyda chyflogwr y glanhawyr

Ni fydd streic gan lanhawyr ar drenau First Great Western (FGW) o dde Cymru i Lundain yn amharu ar yr amserlen, medd y cwmni.

Dywedodd undeb yr RMT bod glanhawyr sydd o dan gytundeb i weithio i'r cwmni trenau yng ngorsafoedd Caerdydd ac Abertawe yn cynnal streic 24 awr i ddechrau fore Gwener.

Mae'r undeb mewn anghydfod gyda'r cwmni sy'n cyflogi'r glanhawyr, Mitie, ynghylch tâl a phensiynau.

Gofynnwyd i Mitie am eu hymateb.

"Sefyllfa ofnadwy"

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Bob Crow: "Mae'r sefyllfa ofnadwy hon yn dangos sut mae'r cwmnïau cyfleusterau hyn yn gweithredu a sut y maen nhw'n trin eu gweithwyr sydd ar gyflogau isel.

"Mae'r cwmni wedi gweld pleidlais unfrydol dros streicio, sy'n adlewyrchu'r dicter ymhlith staff, ac y mae nawr i fyny i Mitie i fynd i'r afael â'r materion a godwyd".

Dywedodd llefarydd ar ran FGW: "Ni fydd yn effeithio ar ein gwasanaethau. Bydd Mitie yn darparu gwasanaeth yn ôl yr arfer.

"Roedd streic flaenorol ar Chwefror 4 ac nid amharwyd ar y gwasanaeth ar ein trenau."

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd y bydd gyrwyr trenau Arriva Cymru yn cynnal streic bedair awr ar hugain ar Chwefror 28.

Yn ôl undeb Aslef mi fydd 500 o'u haelodau'n gwrthod gweithio mewn anghydfod ynglŷn â chyflogau.



HEFYD
Swyddi'n 'dibynnu' ar drydaneiddio
23 Tach 10 |  Newyddion
Rheilffyrdd: 'Angen gwella ar frys'
25 Ion 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific