British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Chwefror 2011, 08:38 GMT
Milwyr o Gymru yn ôl o Afghanistan

Milwr ar wyliadwraeth
Mae Cwmni B 2il Fataliwn y Cymry Brenhinol wedi treulio chwe mis yn nhalaith Helmand

Mae milwyr o Gymru sydd wedi treulio'r chwe mis diwethaf ar flaen y gad yn Afghanistan i ddychwelyd adref yn ddiweddarach.

Mae 150 aelod o Gwmni B 2il Fataliwn catrawd y Cymry Brenhinol wedi bod yn nhalaith Helmand ers mis Gorffennaf y llynedd.

Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith "dal tir" ger prifddinas y rhanbarth, Lashkah Gar, am y rhan fwyaf o'r amser.

Yn ystod yr ymgyrchoedd, mae pedwar milwr wedi eu hanafu ond neb wedi ei ladd yn ystod y daith honno.

Mewn teithiau blaenorol yn 2009, collodd yr Is-gorpral Chris Harkett ei fywyd pan gafodd ei ladd gan ddyfais ffrwydrol cartref (IED) wrth iddo amddiffyn cydfilwyr ger un o ganolfannau'r Taliban ger Musa Qala.

Cafodd y milwr 22 mlwydd oed o Bontardawe ger Abertawe ei ddisgrifio fel milwr a ddangosodd "ddewrder ac ymroddiad anhunanol" gan ei gydweithwyr.

Preifat Richard Hunt, 21, o'r Fenni oedd y 200fed milwr Prydeinig i farw yn y brwydro yn Afghanistan ym mis Awst 2009 pan gafodd ei gerbyd ei daro gan ddyfais ffrwydrol.

Ychydig wythnosau yn ddiweddaraf, ym mis Medi 2009, lladdwyd y Preifat James Prosser gan ffrwydrad.

'Rhan allweddol'

Dywedodd comander ei gwmni fod y llanc 21 oed o Gwmbrân yn "filwr craff ac anhunanol a oedd wastad yn rhoi ei gydfilwyr o flaen ei hun".

Fodd bynnag, mae dychweliad y 99 milwr o Gwmni B i farics Lucknow yn Tidworth, Wiltshire, ddydd Iau yn nodi diwedd dwy flynedd o'u hymgyrchoedd ar ran 2il Fataliwn catrawd y Cymry Brenhinol.

Yn ychwanegol at ddyletswyddau ar flaen y gad yn Helmand, ers y Nadolig mae Cwmni B wedi bod yn darparu gwasanaeth diogelwch tra mae'r gwaith o ailadeiladu un o brif ffyrdd Afghanistan yn mynd yn ei flaen.

"Mae wedi bod yn hanfodol ar gyfer sicrhau cyfathrebu allweddol ac yn y misoedd diweddar mae wedi cael ei drwsio yn sylweddol," meddai llefarydd ar ran y Fyddin am y ffordd.

"Mae Cwmni B wedi chwarae rhan allweddol mewn darparu diogelwch i'r prosiect hwn ar y cyd rhwng Afghanistan, y DG a'r Unol Daleithiau."



HEFYD
Golwg ar waith milwyr yn Afghanistan
16 Rhag 10 |  Newyddion
Afghanistan: Bywyd yn Camp Bastion
14 Rhag 10 |  Newyddion
'Lle llychlyd, lle llwm'
15 Rhag 10 |  Newyddion
Cannoedd yn angladd milwr
18 Hyd 10 |  Newyddion
Angladd milwr Afghanistan
08 Hyd 10 |  Newyddion
Afghanistan: Lladd anghyfreithlon
30 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific