British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Chwefror 2011, 07:12 GMT
Refferendwm: Dadl deledu Pawb a'i Farn

Panelwyr Pawb a'i Farn

Refferendwm pwerau Cymru oedd pwnc trafod rhaglen Pawb a'i Farn o Gaergybi nos Fercher.

Roedd y rhifyn arbennig ar drothwy'r refferendwm ar Fawrth 3 gyda'r ddwy ochor yn gwrthdaro.

Roedd 'na bedwar ar y panel yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn dadlau'n fyw o dan gadeiryddiaeth Dewi Llwyd.

Y pedwar oedd arglwydd diweddaraf Plaid Cymru, Dafydd Wigley, un o is-gadeiryddion Ymgyrch Ie dros Gymru, Jane Wyn o Geredigion, aelod o Gwir Gymru - sy'n erbyn mwy o bwerau - Syr Eric Howells a'r Ceidwadwr Bill Hughes sy'n bwriadu pleidleisio Na.

Roedd cwestiynau'r gynulleidfa am y niferoedd fydd yn pleidleisio, effaith y Cynulliad ar ogledd Cymru a'r tebygolrwydd a fyddai pleidlais Ie'n arwain at annibyniaeth i Gymru ai peidio.

'Sgwarnog'

Dywedodd yr Arglwydd Wigley fod yr awgrym y gallai pleidlais Ie arwain at annibyniaeth yn "sgwarnog."

"Yn gyfansoddiadol, does wnelo fo ddim oll ag annibyniaeth," meddai.

"Mi fedrai San Steffan chwalu'r Cynulliad fory nesa."

Ar y llaw arall, mynnodd Syr Eric mai dilyn patrwm aelodaeth Prydain yn Ewrop fyddai Cymru os oedd pleidlais Ie.

"Beth ddigwyddodd yn 1975 pan aethon ni mewn i'r Farchnad Gyffredin?" meddai.

"Ro'n i 100% dros hynna.

"Beth ddigwyddodd wedyn? Senedd. Beth ddigwyddodd ar ol 'ny? Power."

Record

Hawliodd na ddylai'r Cynulliad gael mwy o bwerau oherwydd record y llywodraethau ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

"Os bydd pobl yn pleidleisio, bydd dau o bob tri yn pleidleisio Na," meddai.

"Ond rwy'n poeni na fydd y mwyafrif yna yn pleidleisio. Pam rhoi mwy o bŵer i'r Cynulliad os nad yw e'n gweithio?

"Beth sy'n becso fi yw bod y gost o redeg Caerdydd gymaint a dy'n nhw ddim yn gwneud dim o les."

Dywedodd yr Arglwydd Wigley mai edrych at y dyfodol y dylai pleidleiswyr.

"Beth sydd angen ydy edrych yn bositif ar sut i wella perfformiad," meddai.

"Un ffordd ydy gallu deddfu o fewn amser rhesymol."

Pwysigrwydd y refferendwm

Roedd Mr Hughes yn cytuno â Syr Eric nad oedd record y llywodraeth yn cyfiawnhau rhoi mwy o bŵer i'r Cynulliad.

"Dyw'r Cynulliad ddim wedi dangos y gallu i wneud pethe gyda'r deddfau sydd ganddyn nhw," meddai.

"Mae'r Aelodau Cynulliad wedi'n gadael ni lawr.

"Dyw'r etholiad ddim yn bwysig i bobl. Mae problemau eraill ganddyn nhw."

Dywedodd Ms Wyn ei bod yn bwysig i bobl feddwl am y refferendwm.

"Rhaid i bobl feddwl yn ddwys am hyn a phleidleisio Ie," meddai.

"Os bydd pleidlais Ie, fydd dim esgus gan y gwleidyddion.

"Mae hon yn ymgyrch draws-bleidiol. Mae'n hollol resymol bod Cymru'n cael y cyfle i wella'r ffordd maen nhw'n gweithio.

"Dydw i ddim yn aelod o blaid wleidyddol ond rwy'n moyn byw mewn gwlad sy'n cael ei rheoli'n ddeche ac yn gallu gwneud y gwaith sydd angen ei wneud."



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific