British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Chwefror 2011, 18:16 GMT
Cefnogwyr yn trafod i brynu Clwb Wrecsam

Clwb Pl-droed Wrecsam
Cefnogwyr yn ceisio prynu'r Cae Ras a'r cae ymarfer

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cadarnhau bod trafodaethau wedi cychwyn gyda chonsortiwm o gefnogwyr sy'n dymuno prynu'r clwb.

Yn ôl datganiad ar wefan y clwb, mae'r cytundeb arfaethedig yn cynnwys prynu'r Cae Ras a'r maes ymarfer yng Ngresffordd.

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam hefyd wedi bod yn gweithio ar gynllun i brynu'r clwb, ond mae'r broses yna wedi cael ei ohirio am y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth bod dim bwriad i gystadlu yn erbyn cynnig y grŵp arall o gefnogwyr.

Mae perchnogion Wrecsam, Geoff Moss ac Ian Roberts, yn awyddus i werthu'r clwb cyn gynted a phosib.

Ond mae Moss wedi mynnu, yn groes i rai adroddiadau yn y wasg, bod y clwb mewn peryg o fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dros y bythefnos ddiwethaf, mae dau gynnig arfaethedig gan ŵyr busnes wedi dod i ddim, ond bellach mae grŵp o gefnogwyr yn gobeithio camu i'r adwy.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific