British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Chwefror 2011, 15:14 GMT
Dyletswydd swyddogol cyntaf i William a Kate

Kate Middleton a Tywysog William
Fe wnaeth y ddau enwi'r bad newydd ym Mae Trearddur

Mae'r Tywysog William a Kate Middleton wedi cael croeso cynnes wrth ymweld â Bae Trearddur, Ynys Môn.

Roedd y ddau yn ymweld â gorsaf bad achub lleol gan ymgymryd â'u dyletswydd swyddogol cyntaf gyda'i gilydd ddydd Iau, i enwi bad achub newydd.

Roedd y cwpl, wnaeth ddyweddïo ym mis Hydref, wedi gofyn i gael ymgymryd â'u dyletswydd swyddogol cyntaf ar y cyd ar Ynys Môn.

Roedd cannoedd o bobl ym Mae Trearddur i weld y cwpl
Kate Middleton yn cyfarch y dyrfa

Mae'r cwpl, fydd yn priodi ym mis Ebrill, yn byw ar yr ynys gan fod y tywysog yn gweithio gyda gwasanaeth achub y Llu Awyr.

Gyda chyfryngau'r byd yn aros i groesawu'r cwpl fe wnaethon nhw gyrraedd am 1.45pm toc cyn i'r seremoni ddechrau am 2pm.

Fe wnaeth y ddau ganu Hen Wlad Fy Nhadau a chanu emyn yn Gymraeg.

Wrth i'r Tywysog William enwi'r bad newydd yn Hereford Endeavour fe wnaeth Miss Middleton arllwys siampên dros y bad achub.

Lluniau

Cafodd y cwpl gyfle i gyfarfod gwirfoddolwyr a staff y bad achub yn ogystal â'r rhai fu'n gyfrifol am gasglu arian i dalu am y bad o Henffordd a Llanllieni (Leominster).

Derbyniodd Miss Middleton dusw o flodau ac fe gafodd y tywysog lun i'w hatgoffa o'r diwrnod.

Bad achub newydd Bae Trearddur yr Hereford Endeavour
Pobl Henffordd a Llanllieni sydd wedi codi arian ar gyfer y bad newydd

Dyma'r tro cyntaf i Miss Middleton wynebu digwyddiad o'r fath, rhywbeth y bydd yn rhaid iddi ddod i ddygymod â fo.

Cyn dydd Iau roedd y ddau wedi ymddangos yn gyhoeddus unwaith ers cyhoeddi eu dyweddïad ym mis Tachwedd, ond dyma oedd y tro cyntaf i Miss Middleton dderbyn gwahoddiad swyddogol i ddigwyddiad.

Dydi hi ddim wedi bod yn llygad y cyhoedd llawer ers cyhoeddi'r dyweddïad.

"Rydym yn falch iawn o fod yn cael cyfle i groesawu'r Tywysog William a Miss Middleton i Fae Trearddur ac mae'n anrhydedd i ni mai yma mae eu dyletswydd swyddogol cyntaf yng Nghymru," meddai Paul Boissier, Prif Weithredwr yr RNLI.

"Mae 'na hanes balch rhwng y gymdeithas a'r Teulu Brenhinol."

Ychwanegodd Christopher Pritchard, uwch lywiwr ym Mae Trearddur, bod croesawu'r cwpl yn gyfle hefyd i groesawu cydweithiwr.

"Mae'r Tywysog yn gweithio i lawr y ffordd yn Y Fali gyda gwasanaeth achub y Llu Awyr.

"Mae'n gydweithiwr sy'n ein helpu i achub bywydau ar y môr."

Bu pobl leol yn edrych ymlaen at yr ymweliad ac yn gobeithio cael cipolwg ar y cwpl.

Roedd cannoedd wedi ymgasglu ers bore Iau i gael gweld y ddau.

Prysurdeb

"Dwi'n credu bod yr effaith maen nhw'n ei gael ar yr ynys yn wych," meddai Karen Knight o siop Spar y pentref.

"Mae'r Tywysog wedi bod allan o gwmpas ac mae'r rhai sydd wedi ei gyfarfod yn dweud ei fod yn wych ac yn cymdeithasu gyda phawb.

Tywysog William a Kate Middleton
Dyma oedd dyletswydd swyddogol cyntaf y ddau gyda'i gilydd

"Mae fy mab wedi ei weld cwpl o weithiau allan yn cael bwyd yn y dafarn leol."

Ychwanegodd Stephen Peters, sy'n cadw modurdy yn y pentref, bod 'na brysurdeb anarferol yn y pentre.

"Mae 'na beiriannau wedi bod yn golchi'r ffyrdd ac mae pawb yn siarad am yr ymweliad.

"Mae'n braf bod o'n digwydd yn ystod gwyliau hanner tymor yr ysgol gan fod y plant i gyd yn edrych ymlaen at weld tywysog."

Dydd Gwener fe fydd y cwpl yn ymweld â'r Alban lle wnaeth y ddau gwrdd.

Fe fyddan nhw'n dychwelyd i St Andrews, lle bu'r ddau yn y coleg, i lansio apêl 600 mlwyddiant y brifysgol.

Does dim disgwyl gweld y ddau yn gyhoeddus eto tan Ebrill 29, diwrnod y briodas.



HEFYD
Priodas mis Ebrill i William a Kate
23 Tach 10 |  Newyddion
Tywysog William i briodi
16 Tach 10 |  Newyddion
Tywysog yn gymwys i hedfan
17 Medi 10 |  Newyddion
'Nid trethdalwyr lleol fydd yn talu'
19 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific