British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Chwefror 2011, 14:50 GMT
Prifathrawes yn dychwelyd i'w gwaith ym Mhowys

Ysgol Maesydre, Y Trallwng
Mae 235 o ddisgyblion yn yr ysgol

Mae prifathrawes ysgol gynradd ym Mhowys, a gafodd ei gwahardd o'i gwaith wrth i ymchwiliad gael ei gynnal, wedi dychwelyd i'w swydd.

Dyw manylion yr honiadau a wnaed yn erbyn Suzanne Foster, prifathrawes Ysgol Maesydre yn Y Trallwng, ddim wedi cael eu cyhoeddi.

Mae 235 o ddisgyblion yn yr ysgol yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Dywedodd y cyngor bod y gwaharddiad wedi ei godi ar ôl ymchwiliad gan swyddogion y cyngor a'r heddlu.

Cafodd Ms Foster ei gwahardd ar Ionawr 31 pan bwysleisiodd llefarydd ar ran y cyngor bod y gwaharddiad yn weithred niwtral - cam a gafodd ei gymryd er mwyn i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dywedodd Anne Tovey ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon: "Rydym wrth ein boddau y bydd hi'n cael dychwelyd i'w gwaith.

"Tra ein bod yn deall ac yn derbyn bod angen gwaharddiad mewn rhai amgylchiadau, nid oedd yn angenrheidiol yn yr achos hwn ac ni ystyriwyd posibiliadau eraill."

Dywedodd nad oedd amgylchiadau gwahardd Ms Foster "yn cydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth y Cynulliad, sydd wedi bod yn eu lle ers 2004".



HEFYD
Prifathrawes wedi ei gwahardd
03 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific