British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Chwefror 2011, 08:15 GMT
5m ar ffioedd cynllun morglawdd

Map o lwybr Morglawdd Hafren
Byddai'r cynllun wedi costio 30 biliwn

Cafodd mwy na £5m ei dalu mewn ffioedd ymgynghori yn ymwneud â'r cynllun, a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth San Steffan, i godi morglawdd ar draws aber Afon Hafren.

Mae gweinidogion wedi amddiffyn y gwariant gan ddweud bod y gwaith a wnaed "yn werthfawr" rhag ofn y byddai'r cynllun yn cael sêl bendith yn y dyfodol.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, ym mis Hydref ddiwedd ar y cynllun i godi morglawdd o Gaerdydd i Weston-Super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Bryd hynny dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Peter Hain, y byddai'n 'drychineb' pe na bai Llywodraeth San Steffan yn rhoi sêl bendith i'r cynllun £30 biliwn.

Roedd Llywodraeth San Steffan wedi dweud y gallai'r cynllun i godi'r morglawdd gyflenwi 5% o ynni'r pedair gwlad o fewn 14 blynedd.

"Gwastraffu miliynau"

Ond mae'r BBC wedi cael ar ddeall bod mwy na £5m wedi ei dalu mewn ffioedd ymgynghori yn ymwneud â'r cynllun.

Talwyd un cwmni, Price Waterhouse Coopers, £350,000 i astudio cynllun ariannol a pherchnogaeth.

Wrth ymateb, dywedodd Peter Hain bod y llywodraeth yn San Steffan wedi "gwastraffu miliynau" ar ymgynghorwyr.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan, roedd y gwaith yn golygu bod llawr mwy yn hysbys am gostau, budd ac effaith morglawdd ar draws aber Afon Hafren.

Byddai'r morglawdd 10 milltir o hyd o Drwyn Larnog ger Caerdydd i Bwynt Brean ger Weston-Super-Mare yn costio tua £30 biliwn.

Roedd amgylcheddwyr yn poeni am effaith y cynllun ar fywyd gwyllt.



HEFYD
Diwedd cynllun morglawdd
18 Hyd 10 |  Newyddion
Cadarnhau atomfa newydd
18 Hyd 10 |  Newyddion
Ymestyn oes Wylfa tan 2012?
13 Hyd 10 |  Newyddion
Poeni am gost Morglawdd Hafren
12 Meh 08 |  Newyddion
'Na' i forglawdd Hafren
16 Ebr 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific