British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Chwefror 2011, 07:36 GMT
Grŵp i gynrychioli anghenion busnesau bach

Gweithiwr
Mae busnesau bach yn cyfrif am dros hanner cyflogwyr CYmru

Mae grŵp ymgynghorol yn cael ei greu i gynrychioli anghenion busnesau bach yng nghynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer datblygu'r economi.

Bydd y grŵp ymgynghorol newydd yn cynnwys aelodau o amryw o gyrff sy'n cynrychioli busnesau bach a chanolig eu maint.

Fe allai hefyd gynnwys cynrychiolwyr o'r busnesau bach a chanolig eu hunain.

Wrth amlinellu'r cynlluniau i greu'r grŵp, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, y bydd yn cynghori Gweinidogion y Cynulliad ar eu cynlluniau i ddatblygu'r economi.

Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi creu Panelau Sector newydd a fydd yn eu cynghori ynglŷn â'r cyfleoedd gorau mewn chwech o sectorau allweddol sydd wedi eu nodi gan weinidogion fel rhai sydd â'r cyfle gorau i greu twf yn economi Cymru.

Mae'r panelau hyn wedi eu creu o bobl fusnes o'r tu allan i'r llywodraeth sydd ag enw sefydledig yn eu maes.

Adfywio'r economi

Bydd y grŵp newydd ar gyfer busnesau bach a chanolig - sef busnesau â 250 neu lai o weithwyr - yn caniatáu i'r panelau sector yma gysylltu'n benodol gyda busnesau bach a chanolig eu maint

Dywedodd Mr Jones: "Mae busnesau bach yn cyfrif am dros hanner holl gyflogwyr economi Cymru ac rydyn ni am wneud yn siŵr eu bod yn ganolog i'r camau rydyn ni'n eu cymryd tuag at adfywio'r economi.

"Fodd bynnag, yn wahanol i nifer o fusnesau mwy nid yw'r adnoddau ganddyn nhw i allu cymryd rhan lawn ym mhrosesau penderfynu'r llywodraeth.

"Dyna pam ein bod yn sefydlu'r grŵp ymgynghorol newydd yma, fel bod barn ac anghenion busnesau bach yn cael eu cynrychioli'n llawn wrth galon ein proses benderfynu."

'Gwrando ar bryderon'

Dywedodd Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r llywodraeth i sefydlu panel busnesau bach.

"Rydyn ni'n falch fod y Gweinidog wedi gwrando ar ein pryderon am y trefniadau newydd, ac yn ymateb drwy weithredu i sicrhau fod busnesau bach yn cael eu cynrychioli yng nghynlluniau'r Llywodraeth wrth iddi symud tuag at economi mwy cynaliadwy," meddai.

Gall gweithwyr, rheolwyr neu berchnogion busnesau bach a chanolig eu maint sydd eisiau cymryd rhan yn y grŵp ymgynghori gysylltu â EconomicRenewalProgramme@wales.gsi.gov.uk am ragor o wybodaeth.



HEFYD
Cytundeb £4m i gwmni bach
13 Ion 11 |  Newyddion
Gwobrwyo cynllun busnesau
17 Awst 10 |  Newyddion
Mwy o gymorth i fusnesau bach
08 Hyd 10 |  Newyddion
Busnesau: Angen mwy o wybodaeth
28 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific