British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Chwefror 2011, 07:42 GMT
Tri thenor yn agor cyngherddau'r Brifwyl

Y Pafiliwn Pinc
Mae'r trefnwyr yn addo wythnos o "ganu, dawnsio a pherfformiadau heb eu hail" yn y pafiliwn pinc

Bydd dathliadau 150 mlwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn "rhedeg fel edau" drwy gyngherddau'r ŵyl yn Wrecsam fis Awst, yn ôl y trefnwyr.

Cynhelir Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011 ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam, o 30 Gorffennaf - 6 Awst.

Dywedodd trefnydd y Brifwyl Hywel Wyn Edwards y bydd "digonedd o ganu, dawnsio a pherfformiadau heb eu hail ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos".

Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins fydd y tri thenor a fydd yn agor y gyfres o gyngherddau ar nos Wener 29 Gorffennaf ynghyd â'r gantores ifanc, Fflur Wyn, corau meibion lleol a Chôr Ysgol Morgan Llwyd.

Pobl ifanc

Bydd pobl ifanc o ardal Wrecsam yn cydweithio gyda thîm o artistiaid proffesiynol amlwg Cymru fel rhan o theatr pobl ifanc Clwyd Theatr Cymru mewn perfformiad arbennig dan gyfarwyddyd Tim Baker ar y nos Sadwrn.

Byddan nhw'n rhoi perfformiad wedi'i ysbrydoli gan y llyfr 'Where Children Sleep' gan James Mollison.

Mae'r ŵyl yn dathlu 150 mlynedd o'i bodolaeth ar ei ffurf fodern yn 2011. Cafodd y drefn bresennol ei sefydlu yn Eisteddfod Dinbych yn 1861.

Wrth gwrs, mae eleni'n flwyddyn bwysig i'r Eisteddfod Genedlaethol wrth i ni ddathlu 150 mlynedd ar ein ffurf bresennol.
Hywel Wyn Edwards, Trefnydd

Bydd darnau sy'n gysylltiedig â'r Eisteddfod ei hun fel rhan o'i dathliadau 150 mlynedd yn cael eu perfformio nos Fawrth gyda Wynne Evans, seren yr hysbyseb Go Compare, Shân Cothi a Llŷr Williams tra bydd nos Iau hefyd yn noson dathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 150 oed gydag Ysgol Glanaethwy.

Nos Sul yw noson y Gymanfa Ganu tra bod nos Lun yn gyfle i fwynhau rhai o glasuron canu pop Cymraeg gyda Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Elin Fflur, Al Lewis Band a mwy. Yn ôl yr arfer cystadlu hwyr fydd yn y Pafiliwn pinc ar nos Fercher a nos Wener.

Côr yr Eisteddfod dan arweinyddiaeth Owain Arwel Hughes, Cerddorfa Siambr Cymru a'r unawdwyr Anne Williams-King, Ann Atkinson, Geraint Dodd a David Kempste sy'n cloi'r cyngherddau ar y nos Sadwrn olaf.

"Bydd digonedd o ganu, dawnsio a pherfformiadau heb eu hail ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos," medai'r trefnydd Hywel Wyn Edwards.

"Rydym eisoes wedi derbyn nifer o ymholiadau am docynnau ar gyfer y nosweithiau - a dyw'r tocynnau ddim yn mynd ar werth tan 1 Mawrth, felly mae'n argoeli'n dda ar hyn o bryd.

Tocynnau

"Wrth gwrs, mae eleni'n flwyddyn bwysig i'r Eisteddfod Genedlaethol wrth i ni ddathlu 150 mlynedd ar ein ffurf bresennol. Bydd elfennau o'n dathliadau'n rhedeg fel edau drwy nifer fawr o'r nosweithiau, ac yn sicr fe fyddwn yn gobeithio y bydd y rheini sy'n ymuno â ni'n mwynhau'u hunain drwy gydol yr wythnos. "

Mae tocynnau cyngherddau nos Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro'n mynd ar werth ddydd Mawrth 1 Mawrth.

Gallwch archebu tocynnau ar y we - www.eisteddfod.org.uk - neu drwy ffonio'r linell docynnau - 0845 4090 800. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau'r Brifwyl am bris tocyn Maes dyddiol.

Mae'r ŵyl yn denu dros 130,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe'i chynhelir yn y gogledd a'r de bob yn ail blwyddyn.



HEFYD
Meistres newydd
01 Chwef 11 |  Newyddion
Apl am straeon caru o'r brifwyl
15 Ion 11 |  Newyddion
Eisteddfod yn apelio am help
05 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific