Mae helyntion rheoli'r cyngor wedi cyrraedd y penawdau ers blynyddoedd
|
Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn, sydd ar fin ildio'r awenau, wedi beirniadu rhai o'r cynghorwyr sydd am geisio rheoli'r cyngor wedi iddo adael ym mis Mai. Maen nhw'n rhan o grŵp o 30 o gynghorwyr sydd wedi cadarnhau'r trefniadau newydd yr wythnos diwethaf ar ôl i Clive McGregor gyhoeddi ei benderfyniad i roi'r gorau i'r arweinyddiaeth. Mae Mr McGregor wedi enwi rhai cynghorwyr ac yn honni eu bod yn cynnig atebion rwan er gwaetha' bod mewn sefyllfa i helpu yn y gorffennol. Ers mis Gorffennaf 2009 mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael ei redeg o dan fesurau arbennig. Dywedodd un o uwch swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol wrth BBC Cymru, bod Llywodraeth y Cynulliad yn credu bod y cyngor wedi cyrraedd penllanw. 'Methu' Deellir y bydd Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, yn gwneud penderfyniad am ddyfodol y cyngor erbyn canol mis Mai. Un opsiwn fyddai uno'r cyngor gyda Chyngor Gwynedd. "Mae'r awdurdod yma wedi methu yn gyson i ymdopi gyda'r hyn sydd wedi codi yn adroddiadau'r archwilwyr yn 2003 a 2008," meddai Mr McGregor. "Y rhain sydd rŵan yn cynnig ateb oedd y cynghorwyr allai fod wedi ateb y materion yn y gorffennol." Mewn llythyr i'r 35 aelod arall o'r cyngor, mae Mr McGregor yn enwi pum cynghorydd - Gareth Winston Roberts, Hefin Thomas, Brian Owen, John Chorlton a Goronwy Parry - ac yn eu disgrifio fel "aelodau o'r awdurdod ers amser maith ac wedi cael sawl cyfle i newid rheolaeth y cyngor ar sail mwy egwyddorol". Mae'r 35 cynghorydd wedi cael eu hannog i ystyried yr hyn mae Mr McGregor yn ei nodi fel "adnewyddiad democrataidd" yr awdurdod. Clymblaid Mae'n galw hefyd am gynghorwyr ifanc a lleihau'r lwfansau i gynghorwyr, yn ogystal â gweld mwy o ferched a chynghorwyr egwyddorol. Yr wythnos diwethaf fe gytunwyd ar glymblaid i reoli'r cyngor o dan arweiniad Bob Parry a Phlaid Cymru, wedi sêl bendith gan yr AS Llafur lleol, Albert Owen a'r AC Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. Ond deellir nad ydi'r drefn newydd yn bodloni Mr Sargeant, sydd wedi galw am ymchwiliad brys i'r modd mae'r cyngor yn cael ei redeg. Ceisiodd BBC Cymru gysylltu gyda'r phum cynghorydd gafodd eu henwi gan Mr McGregor. 'Dim cefnogaeth' Dywedodd y Cynghorydd Gareth Winston Roberts: "Do'n i ddim yn synnu fod yr arweinydd, fel rhyw lygoden fawr, yn trio bachu bywyd yn rhywle. "Does ganddo fo ddim cefnogaeth. Dwi'n methu deall sut mae'r arweinydd, hefo pum aelod, yn meddwl rhedeg cyngor o 40? "Mae 'na grŵp newydd wedi cael ei greu ym Môn o 30 a nhw sydd rwan yn dod i benderfyniadau. "Sut fedr person hefo cefnogaeth o bump neu ella, efo cefnogaeth o'r tu allan hefo deg, hawlio i ddal gafael?"
|