Dyw'r cynnydd o 2.9% ddim yn cynnwys cyfran yr heddlu na'r cyfraniad tre' a chymuned
|
Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cynnydd o 2.9% yn nhreth y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa'. Cafodd cyfarfod arbennig ei gynnal yn Rhuthun ddydd Mawrth. Mae'r cyngor hefyd wedi cytuno ar gynllun i arbed £6 miliwn y flwyddyn nesa'. Dyw'r cynnydd o 2.9% yn nhreth y cyngor ddim yn cynnwys cyfran yr heddlu na'r cyfraniad tre' a chymuned. Cafodd cyllideb y cyngor ei chyhoeddi yn ffurfiol yn y cyfarfod ddydd Mawrth. Arbedion Yn ôl y cyngor, bydd y newidiadau'n dod ag arbedion o dros £6 miliwn, a hynny heb i wasanaethau rheng flaen ddiodde' yn ormodol. Maen nhw'n dweud y bydd modd canolbwyntio adnoddau ar feysydd sy'n cael blaenoriaeth, newidiadau demograffig, amddiffynfeydd ffyrdd a llifogydd, adnewyddu addysg ac adfywiad. Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, o bwyllgor cyllid y Cabinet: "Mae'r cynnydd o 2.9% yn nhreth cyngor Sir Ddinbych ymhlith yr isa' yng Ngogledd Cymru. "O'r dechrau un, mae cynghorwyr wedi mynegi teimladau cryfion ynglŷn â chadw treth y cyngor yn isel, a dyna hefyd y mae'r cyhoedd am ei weld. "Rydym ni'n gwybod y gallai'r sefyllfa yn 2012/13 fod yn dynnach na'r gyllideb rydym ni wedi penderfynu arni a bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r Cyngor barhau i edrych ar arbedion am flynyddoedd i ddod."
|