Mae Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor wedi beirniadu rhai o'r penodiadau diweddar i ganolfan gelfyddydau ac arloesi Pontio.
Wrth siarad ar raglen 'Wythnos Gwilym Owen' ar BBC Radio Cymru, dywedodd Wyn Thomas fod rhai o'r penodiadau yn "wael ac annoeth".
Bydd y ganolfan, sy'n werth £37 miliwn, yn cynnwys theatr lle bydd hyd at 550 o seddau - ac adnoddau i helpu busnesau bach a chanolig.
Ond pan lansiwyd y ganolfan ym mis Ionawr gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, cafodd protest ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae 'na benodiadau da a doeth wedi'u gwneud eisoes, mae 'na hefyd benodiadau gwael ac annoeth wedi'u gwneud
Wyn Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor
Dywedodd y mudiad eu bod yn anhapus am nad oedd hysbysebion uwch swyddi y cynllun yn nodi'r angen i siarad Cymraeg mewn ardal lle mae 70% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith.
Yn ôl Mr Thomas, mae cynllun Pontio yn "un o'r datblygiadau pwysica' a mwya' arwyddocaol ers adeiladu'r Coleg ar y Bryn 'nôl yn 1911."
Eglurodd fod tri phenodiad parhaol wedi eu gwneud - dau yn Gymry Cymraeg ac un yn ddysgwr.
Mae chwe swydd dros dro hefyd wedi eu penodi, ac o'r rheiny, mae hanner wedi mynd i Gymry Cymraeg.
'Ailystyried'
"Tra fy mod i'n cyfadde' ar y naill law fod 'na benodiadau da a doeth wedi'u gwneud eisoes, mae 'na hefyd benodiadau gwael ac annoeth wedi'u gwneud," meddai.
"Ar sail y llythyron rydym ni'n eu derbyn o ddydd i ddydd, yn cwyno am sefyllfa Pontio, mae'n amlwg ar y naill law fod 'na gamddealltwriaeth ynglŷn â'r penodiadau hyn, ond hefyd ar y llall, mae'n amlwg fod angen i'r brifysgol ailedrych ar y penodiadau annoeth hynny wnaethpwyd yn ystod y misoedd diwetha' ac ailystyried oblygiadau ieithyddol ar y naill law, Pontio fel cynllun, a hefyd ymrwymiad y brifysgol i'r Gymraeg ar y llall."
Ychwanegodd y byddai rhai penodiadau yn "newid eu cyfeiriad o safbwynt iaith ac o safbwynt cyfrifoldebau", a hynny wrth i'r brifysgol ailedrych ar ei pholisi penodi cyfrwng Cymraeg.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.