British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Chwefror 2011, 08:40 GMT
Llwybr arfordirol i Gymru gyfan gam yn nes

Bae Ceredigion
Mae'r llwybr newydd yn cysylltu Llanrhath ger Dinbych-y-pysgod gydag Ynyslas, ger Aberystwyth.

Mae'r cynllun i greu llwybr cerdded yr holl ffordd o amgylch arfordir Cymru gam yn nes at gael ei wireddu.

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson, yn agor cam diweddaraf Llwybr Arfordir Cymru yn swyddogol yn Llandudoch yng ngorllewin Cymru ddydd Llun.

Mae'r rhan newydd o'r llwybr, sydd ond yn hanner milltir o hyd (0.83 cilomedr), yn cysylltu Llwybr Arfordir Penfro a Cheredigion.

Unwaith bydd y llwybr hwn ar agor bydd modd i gerddwyr gerdded 400 cilomedr o Lanrhath, i'r dwyrain o Ddinbych-y-pysgod yr holl ffordd i Ynyslas, i'r gogledd o Aberystwyth.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio cwblhau'r llwybr 850 milltir o amgylch arfordir Cymru erbyn haf 2012.

Hwb economaidd

Dywedodd Jane Davidson: "Rydw i wrth fy modd fy mod yn agor y llwybr cyswllt pwysig yma i alluogi pobl i fwynhau 250 milltir ddi-dor o olygfeydd bendigedig.

"Cafodd arfordir Penfro ei alw'n ail arfordir gorau'r byd gan gylchgrawn y National Geographic y llynedd ac rydw i'n annog pawb i ddod i adnabod y rhan bendigedig yma o Gymru.

"Rydw i'n hyderus y bydd y Llwybr Arfordirol yn denu mwy o ymwelwyr i'r arfordir syfrdanol yma a thrwy wneud hynny, yn rhoi hwb gwirioneddol i'r economi leol."

Dywedodd arweinydd cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Keith Evans, fod nifer y bobl sy'n cerdded llwybrau'r arfordir yn cynyddu a'u bod yn "ased sylweddol sy'n helpu i gynnal ac adfywio economi Ceredigion."

Ychwanegodd Ms Davidson: "Mae Llwybr yr Arfordir yn fwy nag atyniad i dwristiaid yn unig. Rydw i'n gobeithio y bydd pobl leol yn gwneud y gorau o'r cyfle ei fwynhau'r golygfeydd tra'n cerdded ar hyd y llwybr ac y bydd yn annog pobl i fyw bywyd mwy bywiog a iach."

Mae rhaglen Llywodraeth y Cynulliad i wella mynediad at yr arfordir yn cael £2 filiwn o gyllid y flwyddyn ac ers 2009 mae wedi derbyn cymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n dod i gyfanswm o £3.9 miliwn dros 3 blynedd.



HEFYD
Cefnogi llwybr arfordir newydd
10 Ion 11 |  Newyddion
Penfro'n well na Hawaii a Bermuda
29 Hyd 10 |  Newyddion
Llwybr arfordirol Cymru gam yn nes
28 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific