British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Chwefror 2011, 06:54 GMT
Her Ewropeaidd i bwerdy £1bn

Y pwerdy: Argraff artist
Argraff artist o'r pwerdy newydd ym Mhenfro

Mae cwyn ynghylch pwerdy newydd gwerth £1 biliwn sy'n cael ei adeiladu yn Sir Benfro yn cael ei hystyried gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Cred Cyfeillion y Ddaear Cymru, a wnaeth y gwyn, fod Llywodraeth San Steffan wedi rhoi caniatâd cynllunio i'r orsaf bŵer heb fod asesiadau amgylcheddol llawn wedi eu cynnal.

Dywed cwmni RWE npower eu bod nhw wedi "ymgynghori'n helaeth" cyn cael caniatâd cynllunio ar gyfer y safle yn Noc Penfro.

Nid oedd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn San Steffan am wneud unrhyw sylw ddydd Sul.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i RWE npower yn 2009 gan yr adran.

'Esboniad'

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi croesawu'r ffaith bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gofyn am esboniad gan awdurdodau yn y DU ynghylch tri phwynt yn ymwneud â'r gŵyn a gyflwynwyd ym mis Mehefin y llynedd.

Cred Cyfeillion y Ddaear y gallai'r orsaf niweidio bywyd môr mewn ardal gadwriaethol.

Yn ôl Gordon James, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae term y Comisiwn, "ceisio esboniad", yn golygu bod "rhyw ddrwg yn y caws".

Ychwanegodd Mr James: "Dylid atal y broses o gael sêl bendith i'r orsaf nawr tra bod ymchwiliad y comisiwn ar y gweill.

"Rydym wedi ysgrifennu at Asiantaeth yr Amgylchedd yn gofyn iddyn nhw wneud hyn.

"Gan nad ydym yn hyderus y byddan nhw'n gwneud hyn, rydym hefyd wedi ysgrifennu at Weinidog Amgylchedd Cymru Jane Davidson yn gofyn iddi orchymyn yr asiantaeth i wneud hynny".

3 miliwn o gartrefi

Ym mis Awst 2007 fe wnaeth y cwmni arwyddo cytundeb â chontractwyr i godi'r pwerdy ar hen safle gorsaf bŵer Penfro a gaeodd ym 1996.

Mae disgwyl i'r orsaf newydd 2000 megawat gael ei chwblhau yn 2012.

Bydd yn darparu ynni ar gyfer 3 miliwn o gartrefi ac yn cyflogi tua 100 o bobl.

Y pwerdy fydd yr un mwyaf ym Mhrydain ers codi gorsaf Drax yn Sir Gogledd Efrog ym 1986.

Ond yn ôl Gordon James, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn poeni y bydd y system oeri dŵr yn peryglu pysgod.

"Un o asedau mwyaf Sir Benfro yw'r amgylchedd a chyfoeth y bywyd môr.

"Dyna pam fod aber y Cleddau a'r ardal gyfagos wedi derbyn statws cadwriaethol mor uchel."

Gofynnwyd am ymateb Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a RWE npower.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Pwerdy newydd: 2,000 o swyddi?
05 Chwef 09 |  Newyddion
£400 miliwn: Creu ynni o wastraff
29 Ion 09 |  Newyddion
Atomfeydd: Meini prawf
27 Ion 09 |  Newyddion
Morglawdd: Gam yn nes?
26 Ion 09 |  Newyddion
Fydd deddf newydd yn drobwynt?
24 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific