British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Chwefror 2011, 20:52 GMT
'Gwarchod Cymru rhag y Tor´aid'

Rhiannon Michael
BBC Cymru

Carwyn Jones
Roedd araith Carwyn Jones ar drothwy prawf mawr cyntaf ei arweinyddiaeth o'i blaid

Gwarchod Cymru rhag y Ceidwadwyr yn San Steffan fyddai pleidlais Ie yn y refferendwm fis Mawrth - dyna neges Llafur Cymru wrth agor y gynhadledd nos Wener.

Yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, pleidlais Ie ar Fawrth 3 yw'r ffordd i Lafur ennill etholiadau'r Cynulliad a ffurfio llywodraeth Lafur yn San Steffan yn 2015.

"Er mwyn cael mwyafrif, rhaid i ni ennill ar Fawrth 3," meddai.

"Mae'r broses yn dechrau ar Fawrth 3, i ennill ym mis Mai, i ennill [yr etholiad cyffredinol] yn 2015."

"Gweithio'n rhesymol"

Dywedodd bod y drefn o drosglwyddo grym trwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (neu LCO) wedi "gweithio'n rhesymol" gyda Llafur mewn llywodraeth yn San Steffan, er weithiau'n araf.

Ond dywedodd iddi gymryd tair blynedd i drosglwyddo grym i'r Cynulliad ym maes tai a phedair blynedd i fedru deddfu ar drafnidiaeth i blant ysgol.

"Ond nawr mae llywodraeth mewn lle fydd yn gwneud ei orau glas i roi stop ar ein gwaith ni.

"Rhaid i ni ddangos i'n ffrindiau a'n cydweithwyr bod dewis amgen yng Nghymru.

"Oni ddylem ni fod yn gallu gosod ein hamserlen ein hunain a chael trefn lywodraethu lle allwn ni siarad llai a gwneud mwy?"

"Dadleuon ffug"

Mynnodd bod yr ymgyrchwyr Na wedi bod yn gosod "dadleuon ffug" gerbron.

Dywedodd nad oedd angen mwy o Aelodau Cynulliad, y gellir "ymdopi" gyda 60.

Pwysleisiodd nad oedd y refferendwm yn ymwneud ag annibyniaeth i Gymru na chodi trethi.

"Nid dechrau'r ffordd tuag at annibyniaeth, nid dechrau'r ffordd i arwahanrwydd yw'r refferendwm," meddai.

"Mae'n sicrhau bod Cymru'n gallu gosod ei agenda ei hun ar faterion sy'n effeithio Cymru.

"Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn delio â than-gyllido Cymru. Nid pwerau codi trethi.

"Mae 13 diwrnod ganddom ni i ddechrau'r broses lle mae Ed Miliband yn cael swydd Prif Weinidog Prydain".

'Llwyddiant datganoli'

Dywedodd Mr Miliband y gynhadledd nos Wener: "Ag ystyried llwyddiant datganoli, mae hi ond yn iawn ein bod ni'n cael pleidlais Ie.

"Rydw i yma heno i gefnogi pleidlais Ie gyda fy holl galon."

Dywedodd bod y refferendwm yn "gam rhesymegol yn seiliedig ar ymddiriedaeth ym mhobl Cymru ac ymddiriedaeth yn Llywodraeth Cynulliad Cymru."

Mae gwrthwynebwyr i'r ymgyrch Ie yn dweud bod rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad yn golygu mwy o arian i wleidyddion sydd wedi methu Cymru ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Rachel Banner, o Gwir Gymru sy'n erbyn datganoli pellach: " Dyw hi ddim yn anarferol i wleidyddion fynnu mwy o bwerau iddyn nhw eu hunain.

"Fydd pwerau deddfu llawn ddim yn helpu dim gyda'r problemau dirfawr sydd ganddom ni yng Nghymru wedi 12 mlynedd o ddatganoli."



HEFYD
Cynhadledd ar drothwy cyfnod prysur
18 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific