British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 20 Chwefror 2011, 13:07 GMT
Clwy: 'Dysgwyd gwersi gwerthfawr'

Achos clwy'r traed a genau
Cafwyd 118 achos o'r clwy yng Nghymru yn 2001.

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi dweud y bydd y gwersi a ddysgwyd o glwy'r traed a'r genau ers 2001 yn lleihau'r perygl o weld digwyddiad o'r maint hwnnw eto.

Y penwythnos yma bydd deng mlynedd ers yr achos a gafwyd yn 2001, gan wneud drwg mawr i'r diwydiant ffermio ym Mhrydain.

Cafodd 118 o achosion eu cadarnhau yng Nghymru, a bron i 350,000 o anifeiliaid eu difa.

Cafodd yr achos cyntaf ei gadarnhau mewn lladd-dy yn Essex a bu'n rhaid difa bron i saith miliwn o anifeiliaid drwy'r Deyrnas Unedig.

Gydag achosion newydd o glwy'r traed a'r genau wedi eu canfod mewn moch gwyllt ym Mwlgaria yn ddiweddar - sydd fel Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd - mae nifer o ffermwyr yn credu y daw'r haint i mewn o dramor eto.

'Gwyliadwrus'

Ond dywedodd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Dysgwyd gwersi gwerthfawr o'r achos hwnnw, ac o ganlyniad rydyn ni'n rheoli symudiadau anifeiliaid yn llymach o lawer.

"Mae hyn yn cynnwys gwaharddiad symud chwe niwrnod ar ffermydd sy'n derbyn gwartheg, defaid neu eifr. Byddai'r mesur hwn ynddo ei hun yn arafu'r clefyd rhag lledaenu ymhellach yn y dyfodol, cyn i achos o'r clwy gael ei ddarganfod.

"Mae ffermwyr yng Nghymru bellach yn gwybod mwy am yr angen i fod yn wyliadwrus wrth edrych am arwyddion clefydau heintus, ac maent yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd bioddiogelwch.

"Dysgodd achos 2001 inni nad yw Clwy'r Traed a'r Genau yn rhoi fawr o amser inni wneud penderfyniadau. Yn y dyfodol, wedi cadarnhau achos o Glwy'r Traed a'r Genau, cyflwynir gwaharddiad symud cenedlaethol ar unwaith i gyfyngu ar ledaeniad y clwy".

'Sgerbydau'n llosgi'

Esboniodd bod pwerau'n gysylltiedig ag iechyd a lles anifeiliaid wedi cael eu datganoli i Gymru yn 2006.

"Gallwn weithredu ein polisïau ein hunain mewn achosion yn y dyfodol, gan ystyried amgylchiadau lleol yn ogystal â'r darlun ehangach o'r clwy," meddai'r Athro Glossop.

"Ni ddylen ni orfod wynebu'r boen eto o weld sgerbydau'n llosgi, fel a welwyd yn ystod 2001, gan ein bod wedi sefydlu ffyrdd eraill o gael gwared ar garcasau, trwy rendro a llosgi masnachol, os bydd achosion yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n gobeithio na ddaw Clwy'r Traed a'r Genau fyth eto i Brydain. Ond pe byddai'n dod, dwi'n credu ein bod wedi paratoi'n drylwyr i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau yr effaith ar ein da byw, ein cymunedau ffermio a'n gwlad."



HEFYD
'Cefn gwlad fel petai dan warchae'
19 Chwef 11 |  Newyddion
Amaeth: Rheolau newydd 'dadleuol'
01 Ion 10 |  Newyddion
Traed a'r genau: £8.8m
20 Chwef 08 |  Newyddion
Ffair yn dathlu diwedd clwy
04 Rhag 01 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific