British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Chwefror 2011, 13:34 GMT
Gwobr i S4C am ffilm feithrin yn Efrog Newydd

'Cyw' a'i ffrindiau
Mae'r ffilm fuddugol yn dilyn anturiaethau rhai o gymeriadau poblogaidd gwasanaeth Cyw

Mae ffilm i blant oed meithrin ar sianel S4C wedi ennill gwobr ryngwladol mewn cynhadledd teledu plant yn Efrog Newydd.

Enillodd y ffilm deledu "Ble Mae Cyw?" y wobr am y Ffilm Deledu, Arbennig neu Unigol orau yn y categori meithrin yn seremoni wobrwyo KidScreen nos Iau.

Roedd yn cystadlu yn erbyn cynhyrchiad The Adventures of Charlotte and Henry o Awstralia.

Mae'r ffilm - a gynhyrchwyd gan gwmni Boomerang+ ar gyfer gwasanaeth meithrin ddyddiol S4C, Cyw - yn dilyn rhai o gymeriadau meithrin mwyaf poblogaidd y sianel wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i Cyw, sydd wedi diflannu.

"Mae S4C yn falch iawn i ennill y wobr hon ac i gael eu hystyried ochr yn ochr â rhai o gynnwys i blant gorau ar draws y byd," meddai Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, Siân Eirian.

Ymfalchïo

"Mae'r wobr KidScreen yn gydnabyddiaeth ryngwladol o'r hyn mae S4C a'r cynhyrchwyr yng Nghymru yn ei gyflawni ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant o'r safon uchaf."

Dywedodd Angharad Garlick o gwmni Boomerang+, cynhyrchydd y ffilm fuddugol a dderbyniodd y wobr yn Efrog Newydd, eu bod fel cwmni yn ymfalchïo yn "ein cyfraniad yn y maes meithrin ac yn ymfalchïo hefyd yn ein tîm sy'n arbenigo yn y maes".

Mae cynhadledd KidScreen yn cael ei hystyried yn ddigwyddiad pwysig o fewn y diwydiant ac mae'n denu cynrychiolwyr o dros 40 o wledydd y byd.

Datblygwyd y gwobrau er mwyn cydnabod arbenigedd a chynhyrchu o safon byd eang yn y maes mewn teledu a ffilm.



HEFYD
S4C: Mudiad yn mynegi pryder
12 Tach 10 |  Newyddion
Tri i gydweithio ar gyfres
29 Medi 10 |  Newyddion
Cyw yn parhau i dyfu
06 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific