British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Chwefror 2011, 17:32 GMT
Cyhoeddi streic drenau

Trn Arriva yng Nghaerdydd
Mae Arriva'n dweud eu bod nhw'n "hynod siomedig"

Fe fydd gyrwyr trenau Arriva Cymru yn cynnal streic bedair awr ar hugain ar Chwefror 28.

Yn ôl undeb Aslef mi fydd 500 o'u haelodau'n gwrthod gweithio mewn anghydfod ynglŷn â chyflogau.

Mae Arriva'n dweud eu bod nhw'n "hynod siomedig" ynghylch y cyhoeddiad.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi cynnig codiad cyflog o 12% dros ddwy flynedd, gan godi cyflog sylfaenol gyrrwr i £39,117 am 35 awr dros bedwar diwrnod ar gyfartaledd.

Mae disgwyl i'r ddwy ochr gyfarfod ar Chwefror 22 i drafod yr anghydfod.

Dywedodd yr undeb hefyd eu bod yn disgwyl cyhoeddi rhagor o streiciau yn dilyn pleidlais gan eu haelodau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific