British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Chwefror 2011, 17:05 GMT
Dim pabell gyhoeddus gan y BBC ar Faes yr Urdd

BBC Cymru

Mae BBC Cymru wedi amddiffyn eu penderfyniad i beidio â chael pabell gyhoeddus ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r penderfyniad yn "dangos na fyddai S4C yn ddiogel o dan reolaeth y gorfforaeth".

"Ar ben gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared â gwefan Gymraeg, mae'r penderfyniad hwn gan y BBC yn dangos yn glir i ba ffordd mae'r gwynt yn chwythu," meddai Bethan Williams, cadeirydd y gymdeithas.

"Dyw diwylliant Cymraeg ddim yn ddiogel yn eu dwylo nhw.

"Yn amlwg, mae'r digwyddiad Cymraeg hwn ar gyfer plant yn Abertawe yn rhywbeth ymylol iddyn nhw.

"A oes rhagor o benderfyniadau fel hyn i ddod?

"A fydd y BBC yn teimlo nad oes rhaid iddynt gefnogi digwyddiadau Cymraeg os byddan nhw'n rheoli S4C?"

'Presenoldeb cryf'

Ond dywedodd llefarydd ar ran y BBC y bydd BBC Cymru yn parhau i ddarlledu o Eisteddfod yr Urdd ac yn parhau i gynnig gwasanaeth ar gyfer teledu, radio ac ar-lein.

"Er na fydd pabell gyhoeddus ar y maes, bydd presenoldeb cryf gennym drwy gydol yr ŵyl gyda'n rhaglenni ar Radio Cymru a'n rhaglenni newyddion ar y teledu.

"Rydym hefyd yn cydlynu gyda'r Urdd er mwyn canfod sut y gallwn weithio gyda'r mudiad ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.

"Yn sgil targedau ariannol heriol, mae'r BBC yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd a thoriadau i ambell i weithgaredd corfforaethol.

"Serch hynny, ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar gynnwys ein darllediadau o'r Eisteddfod."

'Partneriaeth greadigol'

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, ddydd Iau: "Mae gan yr Urdd a'r BBC bartneriaeth greadigol ac rydym yn ddiolchgar am y cyfleoedd y mae'r BBC yn eu rhoi i blant a phobl ifanc sy'n rhan o weithgareddau'r Eisteddfod i arddangos eu doniau.

"Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r berthynas gyda'r BBC yn y dyfodol".

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth pwyllgorau sy'n ceisio codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ddweud eu bod yn cael trafferthion.

Mae'r gronfa leol ar gyfer Eisteddfod Abertawe a'r Fro wedi cyfadde' ei bod hi'n anodd cyrraedd y nod o £200,000, yn ôl prif weithredwr y mudiad, Efa Gruffudd Jones.



HEFYD
Urdd yn cydweithio phrifysgol
08 Chwef 11 |  Newyddion
Dim digon o arian i Eisteddfod?
16 Chwef 11 |  Newyddion
Mwy na 100,000 yn mynd i'r Urdd
06 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific