British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Chwefror 2011, 14:06 GMT
Cyngor Wrecsam yn rhoi caniatad i baneli solar

Paneli solar ar dŷ teras.
Bydd y paneli yn cael eu gosod ar 3,000 o dai

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi rhoi sêl bendith ar gynllun gwerth £25 miliwn i osod paneli solar ar ei stoc dai.

Amcangyfrif y cyngor yw y bydd gosod y paneli ar 3,000 o dai yn creu incwm o £25.7 miliwn dros gyfnod o 25 mlynedd.

Maen nhw hefyd yn credu y bydd y cynllun yn gostwng lefelau deuocsid carbon yn yr amgylchedd, ac yn golygu y bydd biliau eu tenantiaid hyd at 40% yn is.

Dywedodd y cyngor mai nhw yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu cynllun o'r fath.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau'r haf hwn, a chael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2013.

25 mlynedd

Eisoes mae adroddiad wedi dweud bod 36% o stoc dai'r cyngor yn addas ar gyfer paneli solar.

Mae'r cyngor o'r farn y bydd y prosiect yn arbed tua 3000 tunnell o CO2 yn flynyddol, sy'n cyfateb i gymryd 1000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.

Bydd rhaid i'r cyngor fenthyg arian i dalu am y cynllun ond yn gobeithio manteisio ar gynllun 25 mlynedd Llywodraeth San Steffan sy'n caniatáu gwerthu ynni dros ben yn ôl i'r Grid Cenedlaethol.

Dywedodd y cyngor y byddai'r paneli'n gwneud digon o arian i ad-dalu'r benthyciad - ynghyd â chreu incwm ychwanegol o £1 miliwn y flwyddyn.



HEFYD
Mwy o barciau paneli solar i Gymru
22 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific