British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Chwefror 2011, 13:46 GMT
Taclo troseddu ar reilffyrdd y gogledd

Heddlu Trafnidiaeth Prydain
Mae'r heddlu yn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) wedi bod yn gweithredu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drenau ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Bu swyddogion yn delio gyda throseddau fel bod ag arfau yn eu meddiant neu fod a chyffuriau yn eu meddiant yn ogystal â gwaredu dŵr yn gyhoeddus.

Nod y cyrchoedd dros bedwar diwrnod mewn gorsafoedd rhwng Bangor a'r Rhyl oedd gwneud y rheilffyrdd yn fwy diogel.

Dywedodd penaethiaid y rheilffyrdd eu bod am i deithwyr ddweud wrthyn nhw am unrhyw bryderon diogelwch.

'Blaenoriaeth'

Bu'r swyddogion yn gweithio ar draws y rhwydwaith, gan gynnig tawelwch meddwl i'r bobl sy'n defnyddio'r gorsafoedd, yn enwedig gyda'r nos.

Dywedodd yr Arolygydd Dai Davies: "Roedd y cynllun yn llwyddiant, ond mae'n bwysig bod pobl y cymunedau lleol yn parhau i ddweud wrthym am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw yn eu hardaloedd, gan fod hyn yn caniatáu i ni adnabod y problemau a'u taclo.

"Mae drwgweithredu ar reilffyrdd y gogledd yn isel, ond ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr fod pobl sy'n defnyddio'r rhwydwaith nid yn unig yn ddiogel, ond yn teimlo'n ddiogel."

Rheolwr Cyfathrebu Allanol cwmni Trenau Arriva Cymru yw Ben Davies, a dywedodd ei fod yn falch o'r gwaith gafodd ei wneud gan yr heddlu.

"Roedd y cyrchoedd gan y BTP yng ngogledd Cymru yn ganlyniad i ymgynghoriad gyda'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'r ymateb a gawsom eisoes gan deithwyr wedi bod yn bositif iawn," meddai.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific