Pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn
|
Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal ymchwiliad brys i'r modd y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei redeg ar ôl cais gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant. Mewn datganiad, dywedodd Mr Sargeant nad oedd ganddo "hyder y gall y cyngor ateb nifer o heriau ariannol a darparu gwasanaeth sy'n wynebu pob cyngor yn gydlynol a strategol". "Ar y cyfan, mae'n ymddangos nad yw trefn lywodraethol gorfforaethol yw awdurdod yn gwella fel yr oeddwn wedi gobeithio," meddai. Dywedodd arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, wrth BBC Cymru nad oedd yr adroddiad yn syndod iddo a'i fod yn cytuno gyda chanfyddiadau'r gweinidog. Cyhuddodd hefyd rai carfannau o fewn y cyngor o "gynllwynio er eu budd eu hunain" a chymryd camau i "ddisodli" awdurdod o fewn y cyngor. Ffaeleddau difrifol Mewn adroddiad yn 2009, fe nododd yr Archwilydd Cyffredinol ar y pryd, ffaeleddau difrifol o fewn y cyngor, gan gynnwys ymddygiad gwael gan aelodau, diffyg cynllunio strategol a lefel isel o gyfathrebu gyda'r cyhoedd.
Yr argymhelliad bryd hynny oedd y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymyrryd, ac fe gafodd Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro ei benodi, ynghyd â Bwrdd Adferiad i fonitro gwaith yr awdurdod. Mae datganiad Mr Sargeant ddydd Iau yn cydnabod bod rhai gwelliannu wedi digwydd ond nad yw'r problemau mwyaf difrifol wedi diflannu. Yn ei ddatganiad, mae'n dweud: "Mae ymddygiad llawer o gynghorwyr yn awgrymu mai eu prif nod yw gwneud trefniadau er budd personol neu eu grŵp gwleidyddol yn hytrach nag ar gyfer yr ynys gyfan. 'Anodd cadw trefn' "Ym mis Mehefin, er enghraifft, gadawodd arweinydd y cyngor ei grŵp, gan gredu eu bod yn ceisio'i danseilio ef a'r adfywiad. "Ers i ni ymyrryd, mae dau grŵp newydd wedi eu ffurfio ac un o'r hen rhai wedi diflannu ...weithiau mae'n anodd cadw trefn ar deyrngarwch rhai pobl o un wythnos i'r llall." Ychwanegodd y gweinidog ei bod hi'n rhy hawdd colli golwg o waith caled staff y cyngor sydd, meddai, yn gwneud eu gorau i gyflawni ar gyfer yr ynys a'i bod hi'n deyrnged iddyn nhw fod gwasanaethau'r cyngor yn parhau i fod gyda'r gorau. Ond dywedodd nad yw'r staff yn derbyn y gefnogaeth ac arweinyddiaeth sydd ei angen i ateb materion strategol pwysig. Mae'n gorffen ei ddatganiad trwy ddweud: "Rwyf wedi gofyn felly i'r Archwilydd Cyffredinol i edrych ar y cyngor o'r newydd. "Ni ddylai'r cyngor amau difrifoldeb y sefyllfa ar hyn o bryd, sefyllfa y maen nhw wedi ei greu eu hunain. "Di-egwyddor" Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Clive McGregor, wrth BBC Cymru nad oedd yr adroddiad yn syndod iddo.
"Roedd yn weddol debygol y byddai'n gwneud rhyw fath o ddatganiad, yn enwedig am y digwyddiadau sydd wedi cymryd lle yma dros y pythefnos, dair wythnos diwethaf," meddai gan ychwanegu ei fod yn cytuno gyda chanfyddiadau'r gweinidog fod angen sefydlogrwydd o fewn yr awdurdod a bod yn rhaid i bawb "dynnu efo'i gilydd". "Yn anffodus, dydy hynny ddim wedi digwydd yma," meddai. "Mae'n rhaid cael egwyddor mewn bywyd gwleidyddol ac yn anffodus mae egwyddorion rhai o aelodau'r cyngor yma yn hollol absennol. "Rydyn ni'n agosach i'r twll mawr nac ydan ni wedi bod erioed o'r blaen ac mae hynny falle oherwydd fod llond llaw o gynghorwyr wedi cynllwynio er mwyn eu budd nhw'u hunain. Dim er mwyn budd y cyngor, dim er mwyn budd pobl Ynys Môn nac aelodau staff y cyngor yma," meddai Mr McGregor mewn cyfweliad gyda BBC Cymru. "Dwi'n meddwl fod yn rhaid iddyn nhw feddwl yn gryf iawn am y camau maen nhw wedi eu cymryd i ddisodli awdurdod yma yn y ffordd maen nhw wedi ei wneud." Pobl Ynys Môn Ychwanegodd Mr McGregor ei fod yn siomedig "fod y gweinidog wedi gorfod ysgrifennu'r fath beth" a'i fod yn teimlo "rhwystredigaeth mawr ei fod yn dod pan oedd cyfle ganddom ni i ddechrau distewi a gweithio efo'n gilydd". Cadarnhaodd Mr McGregor y bydd yn gadael ei swydd ym mis Mai pan fyddai ei benodiad o ddwy flynedd yn dod i ben. Dywedodd ei fod yn "ddig fod hyn wedi digwydd i'r cyngor, y staff a phobl Ynys Môn" gan ychwanegu mai pobl Ynys Môn sy'n cael eu beirniadu ar sail "gweithredoedd llond llaw o bobl sy'n gynghorwyr yma". Dywedodd Mr Sargeant y byddai'n ystyried argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd. "Fe fyddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad pan fyddaf wedi ystyried ei adroddiad," ychwanegodd.
|