British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Chwefror 2011, 08:13 GMT
Morgannwg yn gofyn am fwy o arian i wellla'r stadiwm

Swalec Stadium
Dywed Cyngor Caerdydd bod cynnal un o gemau prawf Y Lludw yn y ddinas wedi bod yn llwyddiant

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi gofyn am fenthyciad pellach o £1 miliwn gan Gyngor Caerdydd er mwyn cwblhau'r gwaith o wella Stadiwm Swalec.

Cafodd y sir fenthyciad o £4.5 miliwn fel cyfraniad at y gwaith ar y stadiwm, oedd i fod i gostio £9.5 miliwn, er mwyn cynnal un o gemau prawf Cyfres Y Lludw yn 2009.

Ond roedd angen gwaith ychwanegol, gan gynyddu'r costau i £11.3 miliwn.

Os cawn nhw'r benthyciad, mae'r clwb wedi cynnig ad-dalu'r cyfan erbyn 2023 - pum mlynedd yn gynt na'r cytundeb gwreiddiol.

Bydd cynghorwyr yn trafod y cais ddydd Iau.

Talu nôl

Ni fydd yr arian yn dod o goffrau'r cyngor yn uniongyrchol, ond yn hytrach o gronfa benthyciadau cenedlaethol.

Yn ogystal ag ad-dalu'r benthyciad yn gynnar, dywed y clwb criced y byddan nhw hefyd yn sefydlu pecyn o fuddion cymunedol.

Roedd cynnal Y Lludw yn llwyddiant mawr i Gaerdydd, gan roi'r ddinas yn llygad y byd chwaraeon
Rodney Berman, arweinydd Cyngor Caerdydd

Byddai hwnnw'n golygu sesiynau hyfforddi a thocynnau i bobl ifanc.

Mae arweinwyr y cyngor wedi pwysleisio sut y gall gemau prawf ddod ag arian i'r ddinas yn ehangach dros y ddau ddegawd nesaf.

Roedd cynyddu nifer y seddau yn y stadiwm o 5,500 i 17,500 wedi galluogi Caerdydd i groesawu gem brawf gynta' cyfres Y Lludw yn 2009.

Mae pedair o gemau undydd, ac fe fydd tair gem brawf pellach yn cael eu cynnal yno erbyn 2014, a chwe gêm undydd arall.

Dywed Cyngor Caerdydd y bydd y gemau rhyngwladol a ddaw i'r ddinas dros yr 20 mlynedd nesa' yn debyg o ddod a £45 miliwn i'r economi leol.

'Llwyddiant'

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman, y byddai'r pecyn cymunedol yn costio tua £900,000 i'r cyngor petai'r awdurdod yn ceisio'i ddarparu eu hunain.

"Roedd cynnal Y Lludw yn llwyddiant mawr i Gaerdydd, gan roi'r ddinas yn llygad y byd chwaraeon, ac roedd hi'n bleser cael cynorthwyo'r clwb i ddod a'r digwyddiad byd-eang yma i'r brifddinas," meddai.

"Ond y pecyn cymunedol sydd o bwysigrwydd arbennig i'r cyngor, a dyna pam yr wyf wedi dweud yn glir wrth y clwb fod rhaid i'r buddion cymunedol yma fod yn rhan ganolog o unrhyw bartneriaeth gyda sefydliadau chwaraeon yn y ddinas."

Bydd bwrdd gweithredol yr awdurdod yn trafod cais y clwb criced ddydd Iau.



HEFYD
Y Lludw: '£20m o hwb'
13 Gorff 09 |  Newyddion
£50,000 yn 'dipyn o gamp'
15 Mai 07 |  Newyddion
Cytundeb £9.5m i faes criced
16 Ebr 07 |  Newyddion
Cais criced: Cyngor yn gefnogol
09 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific