Bydd refferendwm ar newid y system etholaethau yn cael ei gynnal ar Fai 5
Ar Fai 5 mi fydd yna refferendwm ar newid y dull o ethol aelodau seneddol.
Bwriad y ddeddfwriaeth yw gwneud etholaethau yn debyg o ran maint a chyflwyno system newydd o ethol aelodau seneddol, sef y bleidlais amgen.
Fe allai 10 etholaeth yng Nghymru ddiflannu.
Mae'n rhan ganolog o gytundeb y glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond roedd yna gryn drafferth wrth i'r mesur wneud ei ffordd drwy'r Senedd yn San Steffan.
Mae hefyd yn cynnwys cynllun i dorri'r nifer o aelodau seneddol.
Rhifo ymgeiswyr
Mi fydd y refferendwm yn gofyn a ydy pleidleiswyr am newid y ffordd o ethol aelodau seneddol i'r hyn a elwir yn bleidlais amgen.
Yn hytrach na rhoi croes nesaf at un enw yn y blwch pleidleisio, mi fyddwn ni yn rhifo ymgeiswyr.
Os nad oedd un ymgeisydd yn sicrhau mwy na hanner y bleidlais, mi fyddai angen cyfri ail a thrydydd dewis etholwyr.
Mi roedd yna drafferthion mawr wrth i'r mesur fynd drwy'r Senedd.
Doedd yr arglwyddi ddim yn hapus gyda'r ail elfen - sef cael gwared â nifer o aelodau seneddol.
Nos Fercher, ar ôl mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin, mi benderfynodd yr arglwyddi gytuno.
Mae'n golygu y bydd 10 aelodau seneddol yn llai gan Gymru ar ôl yr etholiad nesaf yn 2015 - 30 yn hytrach na'r 40 sydd ar hyn o bryd.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.