British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Chwefror 2011, 09:21 GMT
Hwb dros frecwast i'r iaith gan ymweliad y Brifwyl

Dol yr Eryrod Wrecsam
Bydd y cyfarfod yn hwb i fusnesau Wrecsam

Daeth dros 60 o fusnesau lleol at ei gilydd dros frecwast ddydd Iau i ddysgu mwy am ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam a'r Fro.

Roedd yn gyfle iddyn nhw gychwyn datblygu'r Gymraeg o fewn busnesau cyn ymweliad y Brifwyl i'r sir yn yr haf.

Cafodd y brecwast ei gynnal ar y cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae ymweliad yr Eisteddfod ag unrhyw ardal yn cael effaith bositif yn ariannol ar unrhyw fro o tua £6-£8 miliwn ar yr economi'n ystod yr wythnos.

Bydd ymweliad y Brifwyl hefyd yn gyfle i fusnesau fynd ati i edrych ar sut y mae modd ddefnyddio mwy o Gymraeg wrth i 150,000-160,000 o ymwelwyr yn edrych ymlaen am groeso arbennig.

Cydweithio

"Mae'r Eisteddfod yn gyfle i ddathlu diwylliant Cymru, ac rydym fel Bwrdd yn awyddus i helpu cwmnïau ar draws y dalgylch i ddarparu croeso Cymreig a Chymraeg i Eisteddfodwyr," meddai Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

"Mae'n Tîm Cefnogi Busnes ni eisoes yn cydweithio gyda nifer o gwmnïau lleol, gan gynnig cefnogaeth a chyngor, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda rhagor o fusnesau wrth i ymweliad yr Eisteddfod agosáu."

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, mai'r bwriad yw cynnig cymorth i fusnesau i fod yn bositif cyn i'r Brifwyl gyrraedd y fro.

"Yn ddi-os, gall yr Eisteddfod roi hwb gwirioneddol i fyd busnes, yn enwedig yn ystod yr wythnos ei hun pan fydd miloedd o bobl yn tyrru i'r Brifwyl o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

"Ein bwriad drwy gynnal y brecwast yw cynnig canllaw ar sut i fod yn rhan o'r effaith economaidd bositif a ddaw i'r ardal yn sgil ymweliad yr Eisteddfod."

• Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro ar dir Fferm Bers Isaf oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam o 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011.



HEFYD
Gorymdaith i groesawu'r Brifwyl
05 Gorff 10 |  Newyddion
Cyhoeddi lleoliad Prifwyl 2011
06 Awst 09 |  Newyddion
'Steddfod nl ar l 30 mlynedd
30 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific