British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Chwefror 2011, 08:36 GMT
Cynllun i wella gorsaf drenau

Darlun ar gyfer gwella gorsaf Wrecsam
Un o'r cynlluniau ar gyfer gorsaf drenau Wrecsam ar ei newydd-wedd

Bydd teithwyr o orsaf rheilffordd Wrecsam yn fuan yn medru defnyddio pont gerdded newydd gyda lifft er mwyn hwyluso'r symud rhwng y swyddfa docynnau a'r platfform.

Bydd cynllun i wella'r orsaf yn cael ei ddadorchuddio gan gwmni Network Rail ddydd Mercher mewn arddangosfa gyhoeddus i annog cefnogaeth i'r gwelliannau.

Mae'r cynllun gwerth £1.6 miliwn yn rhan o gynllun cenedlaethol 'Mynediad i Bawb' sy'n cael cefnogaeth Adran Drafnidiaeth y Llywodraeth yn San Steffan - cynllun sy'n ceisio darparu mynediad heb risiau i tua 145 o orsafoedd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Bydd y bont newydd yn Wrecsam hefyd wedi'i chynllunio i greu awyrgylch diogel - bydd goleuo llachar arni ynghyd â chamerâu cylch cyfyng a ffôn.

'Diogel'

Dywedodd rheolwr rhanbarthol Cymru i Network Rail, Mark Langman:

"Mae Prydain yn dibynnu ar y rheilffyrdd, ac mae'n hanfodol felly ein bod yn darparu adnoddau sy'n eu gwneud yn haws i ddefnyddio, yn fwy diogel gyda mynediad hawdd i bawb.

Gorsaf drenau Wrecsam
Bu protestio yn y gorffennol am y diffyg mynediad i'r anabl yng ngorsaf Wrecsam

"Cludo bagiau trwm, teithio gyda phlant bach neu yn cael trafferth gyda'r grisiau - bydd y gwelliannau yn Wrecsam yn gwneud yr orsaf yn brofiad gwahanol a gwell i bawb."

Cafodd gorsaf drenau Wrecsam ei hagor yn 1846, ac erbyn heddiw mae'n gwasanaethu mwy na 500,000 o deithwyr y flwyddyn ar gyfartaledd.

Gan nad oes modd defnyddio'r bont bresennol heb fynd ar risiau, rhaid i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu'r rhai sy'n cael trafferthion cerdded fynd ar ffordd wahanol - taith o ryw 10 munud.

Dywedodd Mike Bagshaw - Cyfarwyddwr Masnachol Trenau Arriva Cymru:

"Mae creu mynediad heb risiau yn rhan o'n cynllun ehangach i wella mynediad i'n trenau a'n gorsafoedd.

"Fel cwmni, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wella'r profiad o deithio ymhellach."



HEFYD
Galw am well mynediad i'r anabl
01 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific