British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Chwefror 2011, 07:56 GMT
Deiseb am bont newydd dros Afon Dyfi

Pont-ar-Ddyfi
Cafodd y bont ei difrodi gan lori ym mis Mehefin

Mae ymgyrchwyr sydd wedi bod yn galw am bont newydd dros afon ym Mhowys yn teithio i'r brifddinas i gyflwyno deiseb.

Yn aml, mae pont Afon Dyfi ger Machynlleth yn cau pan fydd llifogydd lleol ac mae wedi cael ei difrodi gan gerbydau.

Casglodd Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd 3,226 o lofnodion ar ddeiseb a fydd yn cael ei chyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod sawl opsiwn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer y bont a'r ffordd, gan gynnwys pont newydd.

Fe fydd 34 aelod o'r fforwm yn teithio i Gaerdydd i gyflwyno'r ddeiseb am bont newydd yn lle'r un presennol sy'n 200 oed ac wedi ei chofrestru.

Dros y blynyddoedd mae 'na ddifrod wedi bod i'r bont.

Ym mis Mehefin 2010 fe gafodd ei difrodi gan lori a doedd dim modd i gerbydau fel lorïau deithio dros y bont am sawl wythnos.

Bu'n rhaid ei chau hefyd ym mis Ionawr ar ôl glaw trwm.

Opsiynau

Ers y ddamwain ym mis Mehefin mae'r trigolion lleol wedi bod yn galw am bont newydd.

Pont-ar-Ddyfi
Cafodd Pont-ar-Ddyfi ei hadeiladu yn 1805

"Rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer Afon Dyfi gan gynnwys pont letach a chryfhau'r bont bresennol," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

"Rydym yn y broses o gwblhau'r opsiynau ac fe fyddwn ni'n eu trafod gyda Cadw unwaith y bydd gennym ni opsiynau terfynol.

"Mae'r bont bresennol yn gofeb hanesyddol ac wedi ei chofrestru ar Radd II."

Ychwanegodd nad oedd y lefel yr afon yn codi yn uwch na'r bont, ond ei fod yn cael effaith ar y llwyth all deithio drosti.



HEFYD
Ymgyrch i ddisodli pont gofrestredig
04 Chwef 11 |  Newyddion
Cau pont yn achosi oedi
25 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific