British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Chwefror 2011, 12:36 GMT
SÍr rygbi'n rhoi barn ar y refferendwm

Shane Williams
Dangosodd Shane Williams ei liwiau ar bleidlais y refferendwm

Mae tri o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru wedi cymryd rhan mewn fideo i hyrwyddo'r bleidlais 'Ie' yn y refferendwm ar ragor o bwerau i'r Cynulliad.

Ymunodd Shane Williams, Mike Phillips ac Alun Wyn Jones â'r hyfforddwr Robin McBryde i greu'r neges fideo sydd i'w gweld ar wefan YouTube.

Meddai Shane Williams yn y fideo: "Rwyf eisiau gweld cynulliad sydd â'r arfau i wneud y swydd. Rwy'n credu y dylai deddfau sy'n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru."

Erbyn bore dydd Llun, roedd y fideo 70 eiliad o hyd wedi cael ei gwylio dros 1,500 o weithiau ar YouTube.

Mewn ymateb i'r fideo, dywedodd Gwir Gymru - sy'n ymgyrchu yn erbyn pleidlais dros ragor o bwerau ar Fawrth 3 - y dylid cadw gwleidyddiaeth a chwaraeon ar wahân.

"Fyddwn i ddim yn dweud wrthyn nhw sut i chwarae rygbi," ychwanegodd Nigel Dix, ar ran yr ymgyrch 'Na'.

Roedd Gwir Gymru yn ymgyrchu yng nghanol Caerdydd ddydd Sul gyda mochyn llawn awyr.

Dywedodd yr ymgyrchwyr ei fod yn cynrychioli'r hyn maen nhw'n ei alw yn "glymblaid o hunan-ddiddordeb ymysg lobïaid sy'n cefnogi'r ymyrch 'Ie' ym Mae Caerdydd".



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific