British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Chwefror 2011, 07:42 GMT
Glanhawyr ar streic am gyflog

Gwaith Dur Port Talbot
Mae'r glanhawyr yn gweithio i gwmni OCS yn y ffatri ym Mhort Talbot.

Mae glanhawyr mewn ffatri yn ne Cymru yn cynnal streic deuddydd dros ffrae ynglŷn â thâl.

Bydd aelodau undeb Community yn picedu y tu allan i ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot ddydd Llun a dydd Mawrth er mwyn ceisio sicrhau codiad cyflog.

Mae tua 70 o lanhawyr sy'n gweithio i gwmni contractio OCS yn y ffatri yn cymryd rhan yn y streic.

Mae OCS yn dweud eu bod wedi cynnig lefel tâl uwch na chyfradd chwyddiant ond fod yr undeb wedi tynnu allan o'r trafodaethau.

Dywedodd Susan Lewis o undeb Community: "Mae'n anffodus ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma - nid yw'n haelodau yn cymryd gweithredu diwydiannol yn ysgafn, ond mae gweithwyr OCS yn gwneud rhai o'r swyddi caletaf a butraf yn y gwaith dur heb lawer o wobr - nid yw'n deg.

"Ar ddydd San Ffolant, rydyn ni'n galw ar OCS i 'edrych i'w calonnau' a dod yn ôl at y bwrdd gyda chynnig tâl gwell i'w gweithwyr."

Dim ond 50%

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni OCS eu bod yn siomedig fod undeb Community wedi penderfynu gofyn i'r gweithwyr glanhau fynd ar streic:

"Yn ystod ein trafodaethau rydyn ni wedi rhoi cynnig tâl sydd yn uwch na chyfradd chwyddiant ond yn anffodus mae'r undeb wedi dewis troi cefn ar y broses hon.

"Mae hefyd yn berthnasol mai dim ond 50% o weithwyr OCS ar y safle a bleidleisiodd dros streic.

"Mae'r undeb wedi dweud mai staff OCS sy'n cael y tâl isaf o'r staff sydd ar gontract ar y safle ac mae hyn yn ffeithiol anghywir.

"Rydyn ni'n barod i barhau â'r trafodaethau mewn ymgais onest i ddatrys y sefyllfa ac fe fuasen ni'n annog undeb Community i wneud yr un peth," meddai.

Dibynnu'n helaeth

Yn ôl undeb Community mae'r rhan fwyaf o weithwyr OCS yn y ffatri Tata Steel yn ennill lleiafswm cyflog ac mae'r undeb wedi bod yn ceisio cael codiad cyflog ers mis Mehefin diwethaf.

Cwmni Tata a brynodd hen waith dur Corus yn 2007.

Dywedodd Tim Rutter, pennaeth cyfathrebu Tata Steel fod y streic yn fater rhwng gweithwyr a rheolwyr OCS ond gobeithiai y byddai'r mater yn cael ei ddatrys.

"Mae ganddo'n ni berthynas wych gyda'n contractwyr ac rydyn ni'n dibynnu'n helaeth arnyn nhw.

"Gobeithio y gallan nhw ddatrys y mater.

"Mae'r mater rhwng gweithwyr OCS a rheolwyr OCS ond rydyn ni'n gobeithio y gallan nhw ddod i ddealltwriaeth."



HEFYD
Ta ta i enw a logo Corus
27 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific