British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 13 Chwefror 2011, 15:32 GMT
Achub cerddwyr 'dibrofiad' yn Eryri

Hofrennydd Awyrlu
Fe gafodd hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali ei alw

Cafodd grŵp o gerddwyr mynydd ei achub gan hofrennydd oddi ar ochr mynydd yn Eryri dros y penwythnos.

Roedd gwraig â chyflwr calon, a oedd yn rhan o'r grŵp oedd yn cerdded yn Nyffryn Ogwen nos Sadwrn, wedi dechrau teimlo'n sâl ac yn brin o anadl.

Fe gawson nhw eu codi i hofrennydd Sea King yr Awyrlu o'r Fali ar Ynys Môn â'u cludo i'r ysbyty ym Mangor.

Dywedodd llefarydd ar ran tîm achub mynydd Ogwen nad oedd cyfarpar digonol gan y criw a'u bod yn ddibrofiad.

"Roedden nhw wedi mynd i gerdded yn ardal Twll Du heb fap na syniad lle roedden nhw'n mynd," meddai'r llefarydd.

"Roedden nhw wedi galw am help ac fe gawson nhw eu hachub er eu diogelwch eu hunain."



HEFYD
Achub dau: Diolch i olau ffn
23 Ion 11 |  Newyddion
Beirniadu dringwyr a achubwyd
16 Ion 11 |  Newyddion
Enwi dringwr fu farw wedi cwymp
10 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific