British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011, 06:34 GMT
50m o Gymru i brifysgolion Lloegr

Myfyrwyr
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynnu mai ei pholisi 'yw'r un cywir i Gymru'

Bydd tua £50 miliwn y flwyddyn o arian Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i brifysgolion Lloegr oherwydd cymhorthdal ffïoedd i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru.

Mae'r manylion am sut y bydd y cymhorthdal yn cael ei ariannu wedi cael eu datgelu wedi cais BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

O fis Medi 2012 ymlaen, bydd ffïoedd prifysgolion Cymru a Lloegr yn cynyddu ond oherwydd grantiau Llywodraeth y Cynulliad ni fydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod talu mwy.

Mae'r ffigyrau'n dangos mai cost y cymhorthdal fydd £183 miliwn yn 2015-16, y flwyddyn gyntaf y bydd pob myfyriwr prifysgol yn talu'r ffïoedd newydd.

O'r cyfanswm bydd £51.7 miliwn yn mynd i brifysgolion yn Lloegr neu rannau eraill o'r DU sy'n derbyn myfyrwyr o Gymru.

Bwlch

Arian Llywodraeth y Cynulliad i brifysgolion yn Lloegr
2011-12 = £0.0m
2012-13 = £8.9m
2013-14 = £26.2m
2014-15 = £41.7m
2015-16 = £51.7m
2016-17 = £56.3m
2017-18 = £59.0m
2018-19 = £60.6m
2019-20 = £62.3m
2020-21 = £64.0m
Ffynhonell: Gwybodaeth Llywodraeth y Cynulliad oherwydd cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod modd fforddio'r taliadau gan y bydd prifysgolion Cymru yn elwa o £85.3 miliwn drwy godi ffïoedd uwch ar fyfyrwyr o weddill y DU.

Hefyd bydd y gyllideb addysgu i brifysgolion yn cael ei chwtogi o 35%.

Ym mis Ionawr datgelodd BBC Cymru fod prifysgolion Cymru wedi derbyn £80 miliwn yn llai o gyllid na phrifysgolion Lloegr yn 2009.

Dros ddegawd mae'r bwlch ariannu wedi tyfu o £20 y pen i £900 yn llai am bob myfyriwr.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar addysg, Paul Davies AC, fod ganddo bryderon os yw polisi ffïoedd Llywodraeth y Cynulliad yn gynaliadwy yn ariannol.

"Eisoes mae bwlch cyllido rhwng prifysgolion Cymru a Lloegr sy'n golygu llai o fuddsoddiad mewn adnoddau o safon fyd-eang a llai o athrawon a darlithwyr i gynorthwyo'n prifysgolion i gystadlu ac addysgu academyddion ac entrepreneuriaid y dyfodol.

"Ni fydd rhoi £50 miliwn y flwyddyn i brifysgolion Lloegr ar draul y sector addysg uwch yng Nghymru yn gwella'r sefyllfa."

Amcangyfrifon

Wrth lunio'i pholisi, fe gymerodd Llywodraeth y Cynulliad rai ffigyrau fel amcangyfrifon sef mai £7,000 y flwyddyn ar gyfartaledd fydd ffïoedd prifysgolion Cymru a Lloegr, ac y byddai'r nifer o fyfyrwyr sy'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn aros tua'r un fath.

Ond mae cyhoeddiad Prifysgol Caergrawnt y byddan nhw'n codi ffïoedd o £9,000 wedi arwain at bryder y bydd y cyfartaledd yn uwch.

Hefyd fe fyddai llai o fyfyrwyr o Loegr yn dod i astudio yng Nghymru neu fwy o Gymru'n mynd i Loegr yn peryglu cynaliadwyedd polisi Bae Caerdydd.

Ymateb

Rydym yn gwybod nawr y bydd yr arian ddaeth o doriadau llym i'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu prifysgolion yn Lloegr
Alun Cairns AS

Ceidwadwyr, Bro Morgannwg

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Alun Cairns AS y byddai'n well ganddo weld yr arian yn cael ei wario yng Nghymru.

Awgrymodd y byddai dilyn polisi tebyg i un Lloegr yn sicrhau y bydd prifysgolion Cymru yn cynnig y safonau addysgol gorau gan gystadlu ar y lefel uchaf yn rhyngwladol.

"Rwy'n synnu at y ffigyrau yma - mae hyn gyfystyr â rhoi cymhorthdal i brifysgolion Lloegr o £427 miliwn dros y naw mlynedd nesaf.

"Gallai'r arian gael ei warro yn llawer gwell drwy fuddsoddi yn y system addysg uwch yng Nghymru, sydd eisoes ymhell y tu ôl i Loegr yn nhermau ariannu bob myfyriwr.

"Rydym yn gwybod nawr y bydd yr arian ddaeth o doriadau llym i'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu prifysgolion yn Lloegr.

"Dyw hyn ddim yn iawn - y Gwasanaeth Iechyd ddylai fod yn flaenoriaeth.

'Fforddiadwy a theg'

"Dwi'n credu ei bod hi'n rhesymol gofyn i fyfyrwyr wneud cyfraniad at eu haddysg, fel mae myfyrwyr ymhob gwlad arall yn ei wneud.

"Bydd yr addysg uwch yn arwain yn y pendraw at gyflogau uwch i'r myfyrwyr pan fyddan nhw wedi cymhwyso.

"Wrth i'r Ceidwadwyr Cymreig frwydro am well fformiwla Barnett, mae'r polisi yma o yrru arian yn ôl i Loegr yn tanseilio'n cais am fwy o arian i Gymru."

Ond mynnodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod y polisi yn fforddiadwy.

"Ni ddylai myfyrwyr o Gymru orfod wynebu'r gost o ffioedd uwch lle bynnag maen nhw'n dewis astudio yn y DU.

"Dyna bolisi Llywodraeth y Cynulliad, sy'n wahanol i bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig a fyddai'n gorfodi myfyrwyr o Gymru i dalu mwy.

"Mae hwn yn bolisi fforddiadwy, ac yn bolisi teg.

'Esiampl wych'

"Mae'n esiampl wych o sut yr ydym yn cefnogi myfyrwyr o Gymru.

"Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yma, ac mae'n dangos fod datganoli'n gweithio."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Bydd incwm sefydliadau addysg uwch Cymru o leiaf yr un peth mewn termau real yn 2016-17 ag y bydd yn 2012-13, ac fe fydd cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru yn parhau ar lefel uwch nag yn Lloegr.

"Dylai hyn fod yn newyddion da i'r sector addysg uwch ac i fyfyrwyr o Gymru sy'n ystyried addysg uwch yn y dyfodol."



HEFYD
Prifysgolion: 'Bwlch o 80 miliwn'
14 Ion 11 |  Newyddion
Incwm prifysgolion 'ddim yn newid'
15 Rhag 10 |  Newyddion
Myfyrwyr i dalu dim mwy na 3,290
30 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific