British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Chwefror 2011, 14:49 GMT
JCB yn cyflogi mwy o staff

Y Canghellor George Osborne yn ffatri JCB yn Wrecsam
Y Canghellor George Osborne yn ffatri JCB yn Wrecsam

Mae cwmni JCB yn chwilio am fwy o weithwyr ar ôl diswyddo cannoedd dros y blynyddoedd diweddar.

Fe wnaeth y cwmni'r cyhoeddiad wrth i'r canghellor, George Osborne, ymweld â'i safle yn Wrecsam.

Bydd JCB yn recriwtio 80 o beirianwyr ar y tri safle sydd ganddyn nhw yn Sir Derby, Swydd Stafford a Wrecsam.

Daeth cadarnhad hefyd y bydd 22 o swyddi newydd ychwanegol i safle Wrecsam, sy'n gweithio ar ochr trawsyriant y cwmni.

'Buddsoddi'n sylweddol'

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr JCB, Alan Blake: "Mae llwyddiant diweddar JCB yn ganlyniad i ymgais i wella effeithlonrwydd tanwydd.

"Yn ganolog i'r llwyddiant mae effeithlonrwydd y peiriant yn ei gyfanrwydd, ac mae trawsyriant JCB yng nghalon y datblygiad yna.

"Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn ymchwil a datblygu yn adran trawsyriant JCB, ac yn parhau i ganfod atebion dyfeisgar i wella effeithlonrwydd tanwydd."

Mae penderfyniad dydd Iau yn dod ar ddiwedd cyfnod lle mae JCB wedi gorfod cwtogi'r gweithlu.

Ym mis Tachwedd 2009, diffyg archebion oedd yn cael y bai pan gafodd 200 o weithwyr yn Rocester, Rugley, Cheadle a Wrecsam eu diswyddo.

Cytundeb

Yn ystod ymweliad Mr Osborne ddydd Iau, datgelodd y cwmni hefyd eu bod wedi sicrhau cytundeb gwerth £14 miliwn am beiriannau Jac Codi Baw.

Er bod ffigyrau newydd gyhoeddwyd ddydd Iau yn dangos bod lefel cynnyrch y DU 0.1% yn is ym mis Rhagfyr, mynnodd y canghellor fod JCB yn dystiolaeth bod diwydiant yn gwella yng Nghymru.

Dywedodd Mr Osborne: "Dwi'n credu mai'r hyn yr ydym yn ei weld yw adfywiad cynhyrchu yng Nghymru ac mae hynny'n wych.

"Yma yn Wrecsam dwy neu dair blynedd yn ôl roedden nhw'n diswyddo pobl. Nawr maen nhw'n dechrau recriwtio eto ac mae hynny'n newyddion da iawn."



HEFYD
JCB: Mwy o ddiswyddiadau
30 Ebr 09 |  Newyddion
JCB: Colli 60 o swyddi
12 Ion 09 |  Newyddion
JCB: 398 i golli eu gwaith
14 Tach 08 |  Newyddion
Pryder am swyddi JCB
06 Maw 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific